Arian i Fadagascar – Apêl COVID-19

Cliciwch yma i gyfrannu

.

Apêl frys i leihau dioddefaint wrth i feirws Corona daro Madagascar.

Rydym oll wedi ein brawychu gan y feirws Corona. Gartref a thros y byd, rydym yn wynebu cyni, dychryn a salwch. Wrth wynebu ein caledi ein hunain, a oes gyda ni’r galon i estyn llaw i eraill?
Mewn gwledydd cyfoethog, mae’n debyg y bydd cannoedd o filoedd yn marw tros misoedd nesaf. Ond, o ystyried hanes clefydau’r gorffennol, canran fechan iawn fydd y rheiny o’r marwolaethau sydd i’w disgwyl yn rhannau tlota’r byd.
Mae Arian i Fadagascar wedi treulio degawdau’n gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr ym Madagascar i roi cryfder ac urddas i rai o blant a theuluoedd mwyaf bregus Madagascar. Bellach, rydym yn dychryn wrth weld pa mor fregus yw’r cymunedau a’r plant y daethom i’w caru. Sut all pobl cyn dloted mewn gwlad gyda chyn lleied o ofal iechyd wrthsefyll dinistr y feirws Corona?

 

Os na fydd y feirws yn lladd, fe allai newyn wneud hynny!

Mae prisiau bwyd yn ffrwydro! Does gan 80% o boblogaeth Madagascar ddim cyflog sefydlog. Gyda chyfyngiadau symud, mae’n ddychrynllyd o anodd ennill digon o arian bwydo i’ch teulu bob dydd. Does gan y rhan fwyaf unman i droi – dim cynilion a fawr ddim gobaith o gymorth gan y llywodraeth. Mae tlodi’n dwysáu a newyn yn dechrau.

 

Dyma rybudd Llysgennad y Deyrnas Unedig ym Madagascar, Phil Boyle, yr wythnos ddiwethaf:
“Ychydig iawn o strwythur gofal iechyd sydd gan y wlad, gyda 10 meddyg ar gyfer pob 100,000 o bobl… Os na fydd gwledydd datblygedig yn helpu, gallai’r canlyniadau dyngarol fod yn sylweddol.”
Does dim modd cadw ffiniau ynghau’n ddiddiwedd… os bydd y feirws yn ffrwydro mewn gwledydd tlawd, bydd y trychineb yn llyncu pawb.

 

Bychan yw AiF ond rydym eisiau gwneud ein rhan. Gyda’ch cymorth chi, byddwn yn helpu’r cymunedau ym Madagascar sy’n dibynnu arnon ni.
Byddwn yn dechrau trwy gyfrannu bwyd a chymorth meddygol sylfaenol i’r bobl fwyaf bregus yn y cymunedau lle mae gyda ni brosiectau. Byddwn yn parhau i gefnogi ein partneriaid trwy’r cyfnod caled, gan eu cadw’n gryf. A phan fydd hyn heibio, byddwn yno i helpu adfer cymunedau.
Gwyddom fod y feirws Corona’n niweidio pobl ledled y byd, gartref yn ogystal â thramor. Pob nerth i chi yn eich brwydrau personol. Os oes gyda chi nerth a chariad dros ben, a wnewch chi ystyried cefnogi’r bobl fwyaf bregus ym Madagascar?
Mae AiF yn dechrau anfon arian nawr. Byddwn yn cyhoeddi’r newyddion diweddaraf ar ein gwefan, er mwyn i chi weld sut y mae eich rhoddion yn helpu. Bydd beth bynnag y gallwch ei roi yn ein help i gyrraedd mwy o deuluoedd mewn angen.   Cliciwch yma i gyfrannu..
Gyda diolch diffuant,
Irenee Rajaona-Horne, Cyfarwyddwr Arian i Fadagascar

 

 

Wrth i Covid-19 daro Madagascar, beth mae AiF yn ei wneud?

Mae AiF wedi gweithredu’n gyflym i addasu ein gwaith. Rydym wedi oedi gyda gweithgareddau a allai ledu’r feirws a chanolbwyntio ar fesurau ataliol i gryfhau ein cymunedau.
Mae AiF yn gweithio gyda phartneriaid Malagasaidd dibynadwy. Ar adegau fel hyn, mae’n hanfodol aros gyda’n gilydd, cadw’n gryf a helpu ein gilydd. O ganolfannau preswyl i blant i warchodwyr coedwigoedd glaw, rhaid i bob partner wynebu Corona yn ei ffordd ei hunain, gan wneud eu gorau i amddiffyn a chefnogi eu staff a’r rhai sy’n elwa o’u gwaith. Mae AiF yn gweithio i gefnogi ein partneriaid a chodi’r arian angenrheidiol iddyn nhw wynebu’r her.
Dyma rai o’r ffyrdd yr ydym yn ymateb i Covid-19 ym Madagascar::
    • Atgyfnerthu negeseuon iechyd cyhoeddus yn ein cymunedau.
    • Cynnig grantiau brys i ganolfannau plant er mwyn parhau i brynu bwyd a moddion er gwaethaf chwyddiant rhemp.
    • Rhoi grantiau bychain i deuluoedd sy’n methu â fforddio bwydo’u plant. Mae’r cymorth yn hanfodol nes y caiff ceginau ysgolion a chanolfannau bwydo agor eto.
    • Cynnig mwy o gyfleusterau golchi dwylo.
    • Gwneud a rhannu masgiau wyneb y gallwch eu golchi.
    • Creu rhagor o swyddi cadwraeth i leihau’r cynnydd mewn dinistr amgylcheddol a thlodi a ddaw yn sgil yr argyfwng.
    • Cyn gynted â phosib … cynyddu hyfforddiant mewn byw cynaliadwy – i greu sicrwydd bwyd yn lle newyn a thlodi.

 

Torri’r gôt …
Mewn ardaloedd trefol sydd dan glo rydym yn gweithio gyda phartneriaid fel Ankizy Gasy i rannu grantiau bychain i atal newyn dwys. Mewn ardaloedd anghysbell, fel Melaky, mae amser o hyd i gryfhau ymgyrchoedd gwybodaeth a iechyd cyhoeddus cyn i’r feirws gyrraedd.
Beth allwn ni ei wneud yn y coedwigoedd glaw?
Mae’r diwedd sydyn ar dwristiaeth yn mygu’r gallu i ennill bywoliaeth o amgylch parciau cenedlaethol fel Andasibe – Mantadia. Mae hyn yn debyg o gynyddu’r pwysau ar y coedwigoedd, wrth i weithwyr segur weithredu mewn anobaith i fwydo’u teuluoedd. Rhaid cynyddu patrolio i warchod y coedwigoedd presennol. Mae angen cymorth a gwaith i weithwyr segur fwydo’u teuluoedd heb reibio’r fforestydd. Gallai cynyddu cadwraeth fod yn fantais ddeublyg. Ar hyn o bryd, rydym yn trafod gyda’n partneriaid sut i wneud hyn a chadw at ganllawiau’r llywodraeth am ymbellhau.
Pan gaiff cyfarfodydd cyhoeddus eu caniatáu, bydd angen hyfforddiant mwy dwys mewn tyfu bwyd cynaliadwy, er mwyn lleihau newyn, cynyddu sicrwydd bwyd ac ailadeiladu bywydau.
Gall un rhodd helpu i leddfu newyn a dioddefaint y funud. Gall rhodd gyson helpu ailadeiladu bywydau pan fydd anterth yr argyfwng heibio. Gallai cymynrodd yn eich Ewyllys gynnal ein hymroddiad tymor i’r cymunedau hyn ym Madagascar. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am unrhyw gymorth y gallwch ei roi.   Cliciwch yma i gyfrannu.   Diolch.

 

Dyma sydd gan ein partneriaid i’w ddweud

“Annwyl Irenee a thîm AiF
Diolch yn fawr ichi am fod gyda ni yn y cyfnod anodd hwn. Mae pobl eisoes mewn trafferthion am nad oes gyda nhw arian i brynu bwyd a’r prisiau wedi codi mor uchel!
Rydym yn rhoi 3 Euro bob wythnos i bob teulu tlawd a arferai ddod i’r ffreutur am ddim ar gyfer bwyd a moddion.  Mae’n rhy beryglus i’n tîm brynu a rhannu bwyd, sebon, dŵr etc.  Felly rydym yn rhoi arian.  Dywedodd y teuluoedd eu od yn gwerthfawrogi’r cymorth yn fawr.  Ac maen nhw’n teimlo o ddifrif nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain yn y cyfnod caled.
Felly diolch eto am y cymorth iddyn nhw.  Mae’r gweithwyr cymdeithasol yn rhoi’r grantiau i bob teulu fesul un.  Wedyn maen nhw hefyd yn gallu treulio amser i roi cyngor gwerthfawr am olchi dwylo, cadw pellter, aros gartref, bod â paracetamol wrth law, etc.  Byddwn yn defnyddio’r arian gan AiF i barhau gyda grantiau i deuluoedd a hefyd i wneud a dosbarthu masgiau.
Unwaith eto diolch mawr i holl dîm AiF!  Mae’n bwysig eich bod gyda ni ar yr adeg anodd hon.  Mae’n rhoi nerth a gobaith i fi a’n tîm i gyd ym Madacascar i wybod nad ydym ar ein pen ein hun.  Mae gyda ni ein gilydd i helpu a bod ynghyd!
Byddwch ddiogel.  Cofion cynhesaf.
Patrycj Malik, Cyfarwyddwr Ankizy Gasy.”

 

Mae Arian i Fadagascar yn anfon neges at ein holl gefnogwyr gartref a thramor i aros yn ddiogel a chadw’n gryf.

 

Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial
Instagram