Apêl Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn codi mwy na £156,000 ar gyfer prosiectau ym Madagascar.

Trwy eu hapêl ar gyfer 2018-19, i ddathlu 200 mlynedd o waith cenhadol ym Madagascar, cododd yr Undeb arian ar gyfer pedwar prosiect yn yr ynys, gan adnewyddu’r hen gyfeillgarwch.
  • AAF Manonga Cafe

Trwy’r Daucanmlwyddiant Mawr yn 2018-19, daeth pobl Cymru a Madagascar at ei gilydd unwaith eto, gan ddathlu ynghyd yn y ddwy wlad, drwy theatr, dawns, cerddoriaeth a gwasanaethau diolchgarwch.  Aildaniwyd hen atgofion a chrëwyd cyfeillion newydd.  O’r dathliadau hyn, atgyfnerthwyd teimlad cryf o frawdgarwch rhwng y Cymry a’r Malagasi. Cynhaliodd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg apêl godi arian hynod o lwyddiannus, gan gyrraedd y swm rhyfeddol o £156,000.  Mae Arian i Fadagascar wrth eu bodd yn cael y fraint o reoli’r grantiau hyn ar ran yr Undeb.

Wedi cau’r apêl a phennu union swm y grantiau trefnodd AiF fod pedwar prosiect yn sgrifennu ceisiadau i ddweud sut y bydden nhw’n defnyddio’r arian.  Bydd AiF yn rheoli’r prosiectau hyn yn ystod yr 1-3 blynedd nesaf, gan adrodd yn gyson, gyda’r newyddion diweddaraf, am y gwahaniaeth rhyfeddol y mae rhoddion Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn ei wneud.

Dilynwch y ddolen yma i ddysgu rhagor am Apêl Madagascar Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, gan gynnwys ffilmiau fideo am y prosiectau a fydd yn elwa o’r apêl. https://annibynwyr.org/madagascar-2/fideos-madagascar

 

Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial
Instagram