{"id":13352,"date":"2020-04-08T07:43:21","date_gmt":"2020-04-08T07:43:21","guid":{"rendered":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/?page_id=13352"},"modified":"2020-04-08T12:01:09","modified_gmt":"2020-04-08T12:01:09","slug":"uwi-appeal-aaf","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/uwi-appeal-aaf\/","title":{"rendered":"UWI Appeal &#8211; Akany Avoko Faravohitra"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<div class=\"edbox\">\n<h4><span style=\"color: #ffff99;\">Canolfan Breswyl i Ferched: Akany Avoko Faravohitra<\/span><\/h4>\n<h5><span style=\"color: #ffffff;\">\u2018Nid swydd yw hon. Dyma fy mywyd i!\u2019<\/span><\/h5>\n<\/div>\n<div id=\"metaslider-id-660\" style=\"width: 100%; margin: 0 auto;\" class=\"ml-slider-3-111-2 metaslider metaslider-flex metaslider-660 ml-slider has-dots-nav ms-theme-default\" role=\"region\" aria-label=\"AAF\" data-height=\"300\" data-width=\"700\">\n    <div id=\"metaslider_container_660\">\n        <div id=\"metaslider_660\">\n            <ul class='slides'>\n                <li style=\"display: block; width: 100%;\" class=\"slide-3038 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2019-10-21 20:14:04\" data-filename=\"web-aaf-cafe-hanta-balcony-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/web-aaf-cafe-hanta-balcony-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-660 slide-3038 msDefaultImage\" title=\"web aaf cafe hanta balcony\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-3022 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2019-10-21 19:45:21\" data-filename=\"web-AAF-craft-girls-rafia-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/web-AAF-craft-girls-rafia-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-660 slide-3022 msDefaultImage\" title=\"web AAF craft girls rafia\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-676 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2019-03-27 10:48:20\" data-filename=\"first-girls-at-AAF-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/first-girls-at-AAF-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-660 slide-676 msDefaultImage\" title=\"first girls at AAF\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-3024 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2019-10-21 19:51:10\" data-filename=\"web-AAF-teenaged-mum-baby-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/web-AAF-teenaged-mum-baby-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-660 slide-3024 msDefaultImage\" title=\"web AAF teenaged mum &amp; baby\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-3028 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2019-10-21 19:58:29\" data-filename=\"web-AAF-CRAFT-GIRLS-MAKING-MATS-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/web-AAF-CRAFT-GIRLS-MAKING-MATS-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-660 slide-3028 msDefaultImage\" title=\"web AAF CRAFT GIRLS MAKING MATS\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-684 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2019-03-27 10:50:12\" data-filename=\"20170815_154609-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/20170815_154609-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-660 slide-684 msDefaultImage\" title=\"20170815_154609\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-3030 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2019-10-21 20:03:51\" data-filename=\"WEB-AAF-2-GIRLS-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/WEB-AAF-2-GIRLS-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-660 slide-3030 msDefaultImage\" title=\"WEB AAF 2 GIRLS\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-3032 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2019-10-21 20:06:21\" data-filename=\"Faravohitra-wood-for-cooking-2-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/Faravohitra-wood-for-cooking-2-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-660 slide-3032 msDefaultImage\" title=\"Faravohitra wood for cooking 2\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-3034 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2019-10-21 20:10:34\" data-filename=\"web-aaf-cafe-building-outside-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/web-aaf-cafe-building-outside-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-660 slide-3034 msDefaultImage\" title=\"web aaf cafe building outside\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-1827 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2019-07-05 11:03:47\" data-filename=\"AAF-Mononga-cafe-opening-cake-cut-e1562324622426-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/AAF-Mononga-cafe-opening-cake-cut-e1562324622426-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-660 slide-1827 msDefaultImage\" title=\"AAF Mononga cafe opening cake cut\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-3040 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2019-10-21 20:19:27\" data-filename=\"web-aaf-cafe-staff-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/web-aaf-cafe-staff-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-660 slide-3040 msDefaultImage\" title=\"web aaf cafe staff\" \/><\/li>\n            <\/ul>\n        <\/div>\n        \n    <\/div>\n<\/div>\n<h5>Canolfan breswyl i adfer ac ailhyfforddi merched ifanc yw Akany Avoko Faravohitra (AAF), gyda thua 50 o ferched yno ar hyn o bryd.\u00a0 Mae\u2019r mwyafrif yn eu harddegau, rhai o dan 12 oed a rhai\u2019n famau sengl.\u00a0 Gwraig o\u2019r enw Hanta Randrianarimalala sy\u2019n rhedeg AAF, gyda th\u00eem o 9 aelod o staff a gwirfoddolwyr lleol a rhyngwladol.\u00a0 Fel arfer anfonir y merched i AAF am un o ddau reswm:<\/h5>\n<h5 style=\"padding-left: 40px;\">1. Cael eu harestio am f\u00e2n droseddau sy\u2019n deillio o\u2019u sefyllfaoedd anobeithiol e.e. dwyn bwyd neu ddillad, puteindra neu gyffuriau.\u00a0 Daw pobl ifanc i\u2019r brifddinas i chwilio am fywyd gwell.\u00a0 Ond does dim gwaith nac arian yno, ac fe\u2019u gorfodir i fyw ar y stryd neu mewn slymiau.\u00a0 Mae\u2019r merched sydd yn y ganolfan naill ai\u2019n aros am wrandawiad llys a all gymryd hyd at flwyddyn, neu eisoes wedi eu dedfrydu.\u00a0 C\u00e2nt eu hanfon i\u2019r ganolfan i\u2019w hasesu, yn hytrach na mynd i garchar.<\/h5>\n<h5 style=\"padding-left: 40px;\">2. Wedi eu cam-drin neu wedi eu gadael gan eu teuluoedd, ac yn byw ar y stryd ers eu bod yn ifanc.<\/h5>\n<h5>Beth bynnag y rhesymau, maen nhw\u2019n fregus, wedi gorfod wynebu sefyllfaoedd peryglus a phrofi trawma a cholled.\u00a0 Fel dwedodd Hanta, \u2018Ein gwaith ni yw gofalu amdanynt, eu haddysgu a\u2019u hamddiffyn.\u2019 \u00a0 Bydd Hanta\u2019n eu hasesu er mwyn gweld beth yw eu hanghenion addysgiadol.\u00a0 Mae dros hanner y merched yn mynd i\u2019r ysgol leol a\u2019r gweddill yn cael eu dysgu yn y ganolfan.\u00a0 Dysgir iddynt hefyd sgiliau ymarferol fel brodwaith, gwn\u00efo a gwneud dillad a sgiliau bod yn rhiant.\u00a0 Rhoddir pob cefnogaeth i\u2019r merched i barhau eu haddysg neu hyfforddiant galwedigaethol wedi iddynt adael y ganolfan.\u00a0 Mae\u2019r merched yn rhannu ystafelloedd cysgu ar y cyd, a hwy sy\u2019n gyfrifol am e cadw\u2019n ddestlus a gl\u00e2n.\u00a0 Eglurodd Hanta mai\u2019r nod yw eu helpu i fod yn oedolion annibynnol fydd yn cyfrannu at fywyd eu cymunedau.\u00a0 Meddai: \u2018Rwy am iddynt gael uchelgais a theimlo eu bod yn rhan o gymdeithas.\u00a0 Ond uwchlaw popeth, rwy am iddyn nhw fod yn hapus.\u2019<\/h5>\n<h5>Ar ddiwedd eu cyfnod yn y ganolfan mae\u2019r merched yn gorfod mynd gerbron barnwr y llys plant.\u00a0 I\u2019r mwyafrif y gobaith yw ymuno gyda\u2019u teuluoedd eto a chael mynd adref.\u00a0 Mae paratoi ar gyfer hyn yn rhan allweddol o waith AAF.\u00a0 Ymdrechir i gysylltu \u00e2\u2019r teuluoedd, a threfnir rhaglen o gyfarfodydd rhwng y ferch a\u2019i theulu, wedi eu harolygu gan y staff.\u00a0 Mae Hanta\u2019n paratoi adroddiad manwl i\u2019r llys ar y ferch, gydag awgrymiadau yngl\u0177n \u00e2 beth ddylai ddigwydd iddi. Meddai, \u2018 Mewn 99% o achosion mae\u2019r llys yn barod i dderbyn fy awgrym ac yn rhyddhau\u2019r ferch heb gosb ychwanegol.\u2019<\/h5>\n<h5>Mae AAF yn helpu newid bywydau merched tlawd a bregus ym Madagascar, ac yn gwneud hynny ar gyllideb gyfyng iawn.\u00a0 Nid ydynt yn derbyn arian gan lywodraeth y wlad, nac o unrhyw sefydliad mewnol arall.\u00a0 Daw\u2019r rhan fwyaf o\u2019u harian gan unigolion, eglwysi a sefydliadau tramor, ac maen nhw\u2019n dibynnu\u2019n fawr ar y rhaglen nawdd sydd ganddynt.\u00a0 Cost rhedeg y ganolfan am fis yw 8.5 miliwn Ariary (\u00a31,900), gyda gofal, bwyd ac addysg un ferch yn costio tua 130,000 Ariary (\u00a330) bob mis.<br \/>\nOherwydd prinder arian, dyfodol ansicr sy\u2019n wynebu\u2019r merched wrth ddechrau ar fywyd annibynnol.\u00a0 Byddai rhagor o gyllid yn caniat\u00e1u i AAF eu helpu hwy, a hefyd helpu merched eraill i osgoi carchar a thyfu i fod yn oedolion hapus, annibynnol sy\u2019n gaffaeliad i\u2019w cymunedau.<\/h5>\n<h5>Mae Hanta\u2019n creu argraff fawr, oherwydd ei gweledigaeth a\u2019i hymroddiad i sicrhau lles y merched yn ei gofal.\u00a0 Mae\u2019n amlwg eu bod hwythau\u2019n meddwl y byd ohoni.\u00a0 Roedd y ganolfan mewn cyflwr enbyd a heb ddodrefn pan gymerodd hi drosodd, ond fe weithiodd yn galed i wneud yr adeilad yn lle gwerth byw ynddo, er bod dal angen gwneud gwaith sylweddol arno.\u00a0 Treuliodd Hanta flwyddyn mewn canolfan debyg i AAF pan oedd hi\u2019n ei harddegau, felly mae\u2019n deall anghenion y merched.\u00a0 Wedi hynny, cafodd gyfle i ddod i Ben-rhys yn y Rhondda am gyfnod, a bu hynny\u2019n ddylanwad mawr arni.\u00a0 Ei chyfarchiad cyntaf oedd, \u2018Croeso, fi yw Hanta o Ben-rhys.\u2019 Dwedodd, \u2018Pen-rhys wnaeth i mi eisiau bod yn weithwraig gymdeithasol.\u00a0 Yno sylweddolais os allwn i helpu plant ac ieuenctid Pen-rhys, gallwn helpu plant a phobl ifanc adref hefyd.\u00a0 \u2019 Ychwanegodd, \u2018Nid swydd yw hon.\u00a0 Dyma fy mywyd i!!\u2019<\/h5>\n<h5>AAF will receive a grant of approx. \u00a346k from the appeal.\u00a0 To find out more about how this will be spent <a href=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/ANNEX-B.pdf\"><span style=\"color: #ff0000;\">click here&#8230;<\/span><\/a><\/h5>\n<p>COSTAU<br \/>\nCadw merch yn y ganolfan am fis: \u00a330<br \/>\nGofal meddygol i un ferch am fis: tua \u00a37<br \/>\nDefnyddiau ar gyfer addysg ymarferol i\u2019r merched am fis: \u00a3150<br \/>\nDeunyddiau ysgol i un ferch am flwyddyn: \u00a339<\/p>\n<h5><a href=\"https:\/\/youtu.be\/Y6HiUwuQXYo\">Click here for a short video about AAF<\/a><\/h5>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Canolfan Breswyl i Ferched: Akany Avoko Faravohitra \u2018Nid swydd yw hon. Dyma fy mywyd i!\u2019 Canolfan breswyl i adfer ac ailhyfforddi merched ifanc yw Akany Avoko Faravohitra (AAF), gyda thua 50 o ferched yno ar hyn o bryd.\u00a0 Mae\u2019r mwyafrif yn eu harddegau, rhai o dan 12 oed a rhai\u2019n famau sengl.\u00a0 Gwraig o\u2019r enw Hanta Randrianarimalala sy\u2019n rhedeg AAF, gyda th\u00eem o 9 aelod o staff a gwirfoddolwyr lleol a rhyngwladol.\u00a0 Fel arfer anfonir y merched i AAF am un o ddau reswm: 1. Cael eu harestio am f\u00e2n droseddau sy\u2019n deillio o\u2019u sefyllfaoedd anobeithiol e.e. dwyn bwyd neu&#8230; <\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"template-full-width.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-13352","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/13352","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13352"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/13352\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":13717,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/13352\/revisions\/13717"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13352"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}