{"id":13354,"date":"2020-04-08T07:43:06","date_gmt":"2020-04-08T07:43:06","guid":{"rendered":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/?page_id=13354"},"modified":"2020-04-08T11:54:36","modified_gmt":"2020-04-08T11:54:36","slug":"uwi-appeal-ivato","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/uwi-appeal-ivato\/","title":{"rendered":"UWI Appeal &#8211; Ivato Theological College"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<div class=\"edbox\">\n<h4><span style=\"color: #ffff99;\">Coleg Diwinyddol Ivato: Addysg Amgylcheddol<\/span><\/h4>\n<h5><span style=\"color: #ffffff;\">&#8230; ces fy ysbrydoli i warchod yr amgylchedd, i blannu coed ffrwythau yn arbennig.\u2019<\/span><\/h5>\n<\/div>\n<div id=\"metaslider-id-13460\" style=\"width: 100%; margin: 0 auto;\" class=\"ml-slider-3-108-0 metaslider metaslider-flex metaslider-13460 ml-slider has-dots-nav ms-theme-default\" role=\"region\" aria-label=\"Ivato\" data-height=\"300\" data-width=\"700\">\n    <div id=\"metaslider_container_13460\">\n        <div id=\"metaslider_13460\">\n            <ul class='slides'>\n                <li style=\"display: block; width: 100%;\" class=\"slide-13607 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2020-04-03 15:57:16\" data-filename=\"j2jivYIX.jpeg-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/j2jivYIX.jpeg-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-13460 slide-13607 msDefaultImage\" title=\"j2jivYIX.jpeg\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-13608 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2020-04-03 15:57:16\" data-filename=\"eDRDMMvq.jpeg-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/eDRDMMvq.jpeg-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-13460 slide-13608 msDefaultImage\" title=\"eDRDMMvq.jpeg\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-13609 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2020-04-03 15:57:16\" data-filename=\"97pNVIh2.jpeg-1-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/97pNVIh2.jpeg-1-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-13460 slide-13609 msDefaultImage\" title=\"97pNVIh2.jpeg\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-13610 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2020-04-03 15:57:16\" data-filename=\"433oQE4a.jpeg-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/433oQE4a.jpeg-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-13460 slide-13610 msDefaultImage\" title=\"433oQE4a.jpeg\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-13611 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2020-04-03 15:57:16\" data-filename=\"uwoDjxCN.jpeg-scaled-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/uwoDjxCN.jpeg-scaled-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-13460 slide-13611 msDefaultImage\" title=\"uwoDjxCN.jpeg\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-13612 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2020-04-03 15:57:16\" data-filename=\"YlwiFF7w.jpeg-scaled-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/YlwiFF7w.jpeg-scaled-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-13460 slide-13612 msDefaultImage\" title=\"YlwiFF7w.jpeg\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-13613 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2020-04-03 15:57:16\" data-filename=\"s0gWsPjw.jpeg-scaled-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/s0gWsPjw.jpeg-scaled-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-13460 slide-13613 msDefaultImage\" title=\"s0gWsPjw.jpeg\" \/><\/li>\n            <\/ul>\n        <\/div>\n        \n    <\/div>\n<\/div>\n<h5>Ers dyddiau\u2019r cenhadon cyntaf yn sefydlu ysgolion ar yr ynys, rhoddir pwyslais mawr ym Madagascar ar addysg fel y ffordd i ddianc o dlodi.\u00a0 Mae gan FJKM (Fiangonan\u2019i Jesoa Kristy eto Madagasikara) sef Eglwys Iesu Grist ym Madagascar, nifer o ysgolion, coleg hyfforddi athrawon a cholegau sy\u2019n hyfforddi bechgyn a merched ar gyfer y weinidogaeth.<\/h5>\n<h5>Yn ogystal ag astudio\u2019r Beibl a Diwinyddiaeth, mae\u2019r myfyrwyr diwinyddol yn derbyn hyfforddiant ymarferol e.e. cymorth cyntaf, gofal iechyd sylfaenol, gwybodaeth o\u2019r gyfraith ayyb.\u00a0 Yn aml bydd yn rhaid i weinidog, yn arbennig yn y cymunedau diarffordd, fod yn dipyn o bopeth!\u00a0 Yn hyn o beth, datblygiad cyffrous diweddar yw addysg amgylcheddol yng Ngholeg Diwinyddol Ivato, yn un o faestrefi\u2019r brifddinas.\u00a0 Mae\u2019n costio tua \u00a333,500 y flwyddyn i redeg y coleg.<\/h5>\n<h5>Mae\u2019r Rhaglen Addysg Amgylcheddol yn dod o dan Adran Datblygiad FJKM, ond gweledigaeth Juliette Narijaona, cyfarwyddwraig y coleg, sydd y tu \u00f4l i\u2019r cwrs arloesol yn Ivato.\u00a0 Eglurodd ychydig o\u2019i chefndir, \u2018Bues i\u2019n ddigon ffodus i gael astudio yn Nhaiwan, ac fe\u2019m hysbrydolwyd gan yr hyn oedd yn digwydd yno i warchod yr amgylchedd, yn arbennig plannu coed ffrwythau.\u00a0 Roeddwn yn benderfynol o wneud rhywbeth tebyg ym Madagascar.\u2019<\/h5>\n<h5>Daw\u2019r darpar-weinidogion, a\u2019u teuluoedd, i\u2019r coleg ar gyfer eu blwyddyn olaf.\u00a0 Mae tua 50 ohonynt yno ar hyn o bryd.\u00a0 Mae gan y coleg erddi llysiau, perllan ffrwythau eang a phlanhigfa.\u00a0 Ceir hefyd ardd goed palmwydd sy\u2019n cynnwys nifer o rywogaethau sydd o dan fygythiad.<\/h5>\n<h5>Neilltuir un bore\u2019r wythnos i addysg ymarferol yn y blanhigfa.\u00a0 Caiff y myfyrwyr eu dysgu sut i drin y tir gan ddefnyddio gwrtaith naturiol a\u2019r abwydfa, hefyd sut i hau a gofalu am y planhigion drwy adegau gwahanol y tyfiant.\u00a0 Rhoddir hyfforddiant hefyd yn y dechneg o drawsblannu ac impio.\u00a0 Mae\u2019n debyg fod dros 20 o fathau gwahanol o goed mango wedi eu himpio yn tyfu yn y berllan!<\/h5>\n<h5>Mae\u2019r coleg yn tyfu ei lysiau ei hun ac yn hunangynhaliol, a\u2019r nod tymor hir yw tyfu digon o lysiau i\u2019w gwerthu a chael cyllid ychwanegol i\u2019r coleg.\u00a0 Disgwylir i\u2019r myfyrwyr weithio yn yr ardd lysiau bob dydd, ac ar adeg y cynhaeaf daw pob teulu i helpu, ac maent yn cael mynd \u00e2\u2019r hyn sydd ei angen arnynt.\u00a0 Yn \u00f4l Juliette fe wneir hyn o dan lygaid barcud y prif-arddwr sy\u2019n gwylio nad oes neb yn cymryd gormod!<\/h5>\n<h5>Unwaith yr wythnos maent yn gweithio yn y berllan, sy\u2019n cynnwys coed ffrwythau o bob math e.e. afal, gwafa, mango, afocado, oren ac eirin gwlanog.\u00a0 Maent hefyd yn arbrofi trwy dyfu ffrwythau sydd ddim yn gynhenid i\u2019r wlad fel leim, lemwn, grawnwin, mwyar duon, llus, ciwi a canistel.\u00a0 Ar \u00f4l cael digon at ddefnydd y coleg caiff unrhyw ffrwyth dros ben ei werthu.<\/h5>\n<h5>Bob mis Chwefror, yn ystod y tymor glaw, cynhelir Diwrnod Gwyrdd y Coleg, pan fydd pawb o\u2019r coleg ynghyd \u00e2 gwirfoddolwyr eraill yn trin y tir a phlannu hadau a phlanhigion newydd.\u00a0 Anfonwyd nifer o\u2019r coed ifanc yn y blanhigfa i Ganolfan Coed Ffrwythau a sefydlwyd yn ddiweddar gan FJKM yn nhref Mahatsinjo, i\u2019r gogledd o\u2019r brifddinas.\u00a0 Plannwyd 270 o goed yno, gyda chymorth yr eglwys leol, ar safle sy\u2019n ymestyn dros 30 acer, a\u2019r cynllun tymor hir yw plannu pedair mil o goed.\u00a0 Fe fydd y ganolfan yn gallu darparu coed ffrwythau o\u2019r ansawdd orau i bob rhan o\u2019r ynys.<\/h5>\n<h5>Ystyrir y ganolfan yn ychwanegiad gwerthfawr i waith y coleg, gyda\u2019r myfyrwyr yn mynd yno i weithio a dysgu mwy.\u00a0 Bydd ar agor hefyd i ymwelwyr, ac yn cynnig hyfforddiant ar sut i ofalu am goed.\u00a0 Mae gan FJKM gynlluniau i ddod ag aelodau eu heglwysi yno, ynghyd \u00e2 disgyblion ac athrawon yr ysgolion sydd ganddynt.\u00a0 Mae meithrin ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith eu pobl yn allweddol i gynlluniau FJKM, ac eisoes mae nifer o oruchwylwyr rhanbarthol yr ysgolion wedi dechrau cael eu hyfforddi, ac mae athrawon newydd mewn 35 o ysgolion yn rhan o raglen brawf.<br \/>\nAr derfyn eu cyfnod yng Ngholeg Ivato caiff pob un o\u2019r myfyrwyr ddewis 10 o goed a phlanhigion ifanc i fynd gyda hwy i\u2019w plannu lle bynnag y byddan nhw\u2019n gweinidogaethu.\u00a0 Maent yn ffynhonnell incwm i\u2019r gweinidog newydd, ac yn ysbrydoliaeth i aelodau&#8217;r eglwysi i wneud rhywbeth tebyg hefyd ac i ddysgu o\u2019i harbenigedd hwy.<\/h5>\n<h5>Gweledigaeth, brwdfrydedd ac arweiniad Juliette sy\u2019n gyfrifol bod y coleg yn torri tir newydd ym maes addysg ddiwinyddol ym Madagascar, ac mae ganddi gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol e.e. mwy o weithwyr ar y prosiect, rhagor o offer ffermio ac ehangu\u2019r blanhigfa.\u00a0 Ond mae angen cyllid ychwanegol i wneud hynny.<\/h5>\n<h5>Ivato Theological College will receive a grant of approx. \u00a330k from the appeal. To find out more about how this will be spent click here {to follow}<\/h5>\n<h5><a href=\"https:\/\/youtu.be\/XY30anloNvk\">Click here for a short video about Ivato Theological College<\/a><\/h5>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Coleg Diwinyddol Ivato: Addysg Amgylcheddol &#8230; ces fy ysbrydoli i warchod yr amgylchedd, i blannu coed ffrwythau yn arbennig.\u2019 Ers dyddiau\u2019r cenhadon cyntaf yn sefydlu ysgolion ar yr ynys, rhoddir pwyslais mawr ym Madagascar ar addysg fel y ffordd i ddianc o dlodi.\u00a0 Mae gan FJKM (Fiangonan\u2019i Jesoa Kristy eto Madagasikara) sef Eglwys Iesu Grist ym Madagascar, nifer o ysgolion, coleg hyfforddi athrawon a cholegau sy\u2019n hyfforddi bechgyn a merched ar gyfer y weinidogaeth. Yn ogystal ag astudio\u2019r Beibl a Diwinyddiaeth, mae\u2019r myfyrwyr diwinyddol yn derbyn hyfforddiant ymarferol e.e. cymorth cyntaf, gofal iechyd sylfaenol, gwybodaeth o\u2019r gyfraith ayyb.\u00a0 Yn aml&#8230; <\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"template-full-width.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-13354","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/13354","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13354"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/13354\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":13715,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/13354\/revisions\/13715"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13354"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}