{"id":13393,"date":"2020-04-03T10:27:23","date_gmt":"2020-04-03T10:27:23","guid":{"rendered":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/?page_id=13393"},"modified":"2020-04-16T14:14:31","modified_gmt":"2020-04-16T14:14:31","slug":"uwi-appeal-saf-dispensary","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/uwi-appeal-saf-dispensary\/","title":{"rendered":"UWI Appeal &#8211; SAF Dispensary"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<div class=\"edbox\">\n<h4><span style=\"color: #ffff99;\">SAF: llawfeddygaeth, trin dannedd a fferyllfa<\/span><\/h4>\n<h5><span style=\"color: #ffffff;\">\u2018Mae pobl iach yn cyrraedd eu potensial\u2019<\/span><\/h5>\n<\/div>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<div id=\"metaslider-id-13461\" style=\"width: 100%; margin: 0 auto;\" class=\"ml-slider-3-108-0 metaslider metaslider-flex metaslider-13461 ml-slider has-dots-nav ms-theme-default\" role=\"region\" aria-label=\"SAF Dispensary\" data-height=\"300\" data-width=\"700\">\n    <div id=\"metaslider_container_13461\">\n        <div id=\"metaslider_13461\">\n            <ul class='slides'>\n                <li style=\"display: block; width: 100%;\" class=\"slide-13601 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2020-04-03 15:55:15\" data-filename=\"wsDsDvPg.jpeg-scaled-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/wsDsDvPg.jpeg-scaled-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-13461 slide-13601 msDefaultImage\" title=\"wsDsDvPg.jpeg\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-13602 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2020-04-03 15:55:15\" data-filename=\"u23JRv_R.jpeg-scaled-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/u23JRv_R.jpeg-scaled-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-13461 slide-13602 msDefaultImage\" title=\"u23JRv_R.jpeg\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-13603 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2020-04-03 15:55:15\" data-filename=\"pnO8Q9rU.jpeg-scaled-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/pnO8Q9rU.jpeg-scaled-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-13461 slide-13603 msDefaultImage\" title=\"pnO8Q9rU.jpeg\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-13604 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2020-04-03 15:55:15\" data-filename=\"rRas3iRR.jpeg-scaled-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/rRas3iRR.jpeg-scaled-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-13461 slide-13604 msDefaultImage\" title=\"rRas3iRR.jpeg\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-13605 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2020-04-03 15:55:15\" data-filename=\"SBKrvuib.jpeg-scaled-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/SBKrvuib.jpeg-scaled-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-13461 slide-13605 msDefaultImage\" title=\"SBKrvuib.jpeg\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-13606 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2020-04-03 15:55:15\" data-filename=\"UmYWz-ag.jpeg-scaled-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/UmYWz-ag.jpeg-scaled-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-13461 slide-13606 msDefaultImage\" title=\"UmYWz-ag.jpeg\" \/><\/li>\n                <li style=\"display: none; width: 100%;\" class=\"slide-13640 ms-image \" aria-roledescription=\"slide\" data-date=\"2020-04-03 16:06:56\" data-filename=\"df0kN6qQ.jpeg-1-700x300.jpg\" data-slide-type=\"image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/df0kN6qQ.jpeg-1-700x300.jpg\" height=\"300\" width=\"700\" alt=\"\" class=\"slider-13461 slide-13640 msDefaultImage\" title=\"df0kN6qQ.jpeg\" \/><\/li>\n            <\/ul>\n        <\/div>\n        \n    <\/div>\n<\/div>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h5>Ynghanol prifddinas Madagascar, Antananarivo, mewn rhan o swyddfeydd FJKM (Fiangonani\u2019i Jesoa Kristy eto Madagasikara), sef Eglwys Iesu Grist ym Madagascar, mae fferyllfa a chlinig dannedd sy\u2019n cael eu cynnal gan fudiad o\u2019r enw SAF (Sampan\u2019Asa momba ny Fampandrosoana).\u00a0 Cafodd SAF ei sefydlu\u2019n rhan o raglen datblygu FJKM, i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r diffygion anferth mewn gofal iechyd.\u00a0 Ym Madagascar, dim ond 3,000 o feddygon a 5,500 nyrs sy\u2019n gwasanaethu 25,000,000 o bobl.\u00a0 Mae gofal meddygol yn ddrud a\u2019r tu hwnt i bocedi cyfartaledd y boblogaeth.\u00a0 Gall cwrs o wrthfiotigau gostio cymaint \u00e2 chyflog pythefnos i weithiwr cyffredin.<\/h5>\n<h5>Mae gan SAF gynllun i sefydlu fferyllfeydd ledled y wlad lle gall pobl gyffredin fynd a gweld meddyg am 19% o\u2019r pris mewn meddygfa arferol.\u00a0 Mae\u2019r moddion hefyd yn rhatach. Mae gyda nhw bellach rwydwaith o 36 fferyllfa a 3 o\u2019r rheiny yn y brifddinas.<\/h5>\n<h5>Does dim gwasanaeth iechyd am ddim ym Madagascar ac mae SAF yn cynnig gwasanaeth meddygol llawer rhatach e.e. mae gweld meddyg a chael moddion trwy SAF yn costio \u00a32.20 o\u2019i gymharu ag \u00a311 mewn meddygfa breifat; cost defnyddio camera uwch-sain yw \u00a31.75, o\u2019i gymharu \u00e2 \u00a34.50 mewn meddygfa breifat.<\/h5>\n<h5>Mae SAF yn recriwtio meddygon, nyrsys neu fydwragedd ac yn darparu adeilad addas, ynghyd \u00e2 gwerth 6 mis o foddion sylfaenol a chefnogaeth goruchwylwyr.\u00a0 Trwy godi t\u00e2l bychan am weld meddyg a moddion, gall y staff meddygol gynnal eu teuluoedd, prynu moddion newydd a diogelu gwasanaeth cymunedol sy\u2019n gynaliadwy a fforddiadwy.<\/h5>\n<h5><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-13533 aligncenter\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/pnO8Q9rU.jpeg-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"313\" height=\"208\" srcset=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/pnO8Q9rU.jpeg-300x200.jpg 300w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/pnO8Q9rU.jpeg-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/pnO8Q9rU.jpeg-768x512.jpg 768w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/pnO8Q9rU.jpeg-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/pnO8Q9rU.jpeg-2048x1365.jpg 2048w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/pnO8Q9rU.jpeg-600x400.jpg 600w\" sizes=\"auto, (max-width: 313px) 100vw, 313px\" \/><\/h5>\n<h5>Dr Philipe Ramarosandratana sy\u2019n arwain y t\u00eem yn y brif fferyllfa ac mae\u2019n cynnwys 2 feddyg, 2 nyrs, deintydd a staff gweinyddu.\u00a0 Mae\u2019r holl staff meddygol yn gweld 50-60 claf bob dydd.\u00a0 Dr Philipe oedd Cyfarwyddwr Rhaglen Iechyd Cymunedol Genedlaethol Madagascar ond gadawodd y swydd honno i ddod i weithio i SAF ac mae\u2019n rheoli\u2019r brif fferyllfa ers mwy na 25 mlynedd.\u00a0 \u2018Mae\u2019n bleser a braint gweithio gyda\u2019r eglwys,\u2019 meddai. \u2018Nid ennill arian sy\u2019n fy ysgogi.\u201d<\/h5>\n<h5>Bydd y staff yn trin clefydau amrywiol ymhlith oedolion a phlant, yn rhwymo briwiau a chlwyfau, yn darparu moddion at anhwylderau tymor hir, yn brechu, yn cynnal clinigau mamolaeth a chyngor am atal cenhedlu, cynllunio teulu a chyngor meddygol cyffredinol.\u00a0 Os oes angen triniaeth fwy arbenigol, caiff cleifion eu cyfeirio i ysbyty.<\/h5>\n<h5>Y nyrs famolaeth sy\u2019n cynnal y glinig mamolaeth ac atal cenhedlu; bydd yn cynnal archwiliadau rwt\u00een a rhoi cyngor am gynllunio teulu.\u00a0 Mae gan y clinig gamera uwchsain, a roddwyd gan eglwys yn Korea.\u00a0 Mae angen camera newydd ond byddai\u2019n costio \u00a35,0000 (25 miliwn Ariary).\u00a0 Mae clinigau wedi-geni hefyd, gyda chyngor am fwydo a maeth, gyda\u2019r nod o wneud popeth posib i sicrhau bod y baban newydd yn goroesi ac yn cael ei warchod rhag y clefydau plant sy\u2019n parhau\u2019n gyffredin yno. Er enghraifft, dywedodd Dr Philipe ei fod wedi gweld 7 achos o polio yn ystod y flwyddyn ddiwetha\u2019.<\/h5>\n<h5><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-13542 alignright\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/u23JRv_R.jpeg-200x300.jpg\" alt=\"\" width=\"228\" height=\"343\" srcset=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/u23JRv_R.jpeg-200x300.jpg 200w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/u23JRv_R.jpeg-683x1024.jpg 683w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/u23JRv_R.jpeg-768x1152.jpg 768w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/u23JRv_R.jpeg-1024x1536.jpg 1024w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/u23JRv_R.jpeg-1365x2048.jpg 1365w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/u23JRv_R.jpeg-600x900.jpg 600w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/u23JRv_R.jpeg-scaled.jpg 1707w\" sizes=\"auto, (max-width: 228px) 100vw, 228px\" \/>Mae\u2019r brif fferyllfa yn cynnig gwasanaeth trin dannedd, sy\u2019n brin mewn gwlad heb ddim ond 57 deintydd.\u00a0 Mae\u2019r deintydd yn o 4 niwrnod yr wythnos ac mae\u2019r stafell aros yn orlawn bryd hynny!<\/h5>\n<h5>Yn eu gwaith, mae SAF yn rhoi pwyslais ar atal clefydau.\u00a0 Maen nhw\u2019n cynnal ymgyrch i frechu rhag polio, gan greu poster arbennig am hynny ar gyfer ysgolion ac eglwysi.\u00a0 Yn ddiweddar, dosbarthodd y fferyllfa wybodaeth am y pla, a chynnig cyngor ymarferol am warchod rhagddo.\u00a0 Gan fod diffyg maeth yn broblem i tua 51% o\u2019r boblogaeth, mae SAF yn cynnal Rhaglen Faeth Genedlaethol mewn pentrefi gwledig lle mae eu fferyllfeydd.\u00a0 Maen nhw hefyd yn gweithio i godi ymwybyddiaeth am glefydau cyffredin, fel TB a malaria a chynnig cyngor am HIV ac AIDS.<\/h5>\n<h5>Bellach, mae gan SAF statws NGO ei hunan ond mae\u2019r berthynas agos ag FJKM yn parhau.\u00a0 Dim ond am foddion y bydd gweinidogion FJKM yn talu, nid am weld meddyg, a chaiff gweinidogion wedi ymddeol y cyfan am ddim.<\/h5>\n<h5>Y problemau mwya\u2019 yw diffyg cyllid, prinder moddion a gweithwyr meddygol cymwys yn cael eu denu dramor gan gyflogau uwch.\u00a0 Eto, mae\u2019r fferyllfeydd yn gwneud cyfraniad allweddol i iechyd yng nghymunedau Madagascar.\u00a0 Yng ngeiriau Dr Philipe, mae gofal iechyd yn uchel ar restr blaenoriaethau pobl \u2018am fod pobl iach yn cyrraedd eu potensial\u2019<\/h5>\n<p>COSTAU<\/p>\n<p>Pris un cwrs o wrthfiotigau i warchod unigolyn rhag y pla: \u00a37.50<\/p>\n<h5><\/h5>\n<h5><a href=\"https:\/\/youtu.be\/q_4d-FifnRg\">Click here for a short video about SAF Dispensary<\/a><\/h5>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>SAF: llawfeddygaeth, trin dannedd a fferyllfa \u2018Mae pobl iach yn cyrraedd eu potensial\u2019 &nbsp; &nbsp; Ynghanol prifddinas Madagascar, Antananarivo, mewn rhan o swyddfeydd FJKM (Fiangonani\u2019i Jesoa Kristy eto Madagasikara), sef Eglwys Iesu Grist ym Madagascar, mae fferyllfa a chlinig dannedd sy\u2019n cael eu cynnal gan fudiad o\u2019r enw SAF (Sampan\u2019Asa momba ny Fampandrosoana).\u00a0 Cafodd SAF ei sefydlu\u2019n rhan o raglen datblygu FJKM, i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r diffygion anferth mewn gofal iechyd.\u00a0 Ym Madagascar, dim ond 3,000 o feddygon a 5,500 nyrs sy\u2019n gwasanaethu 25,000,000 o bobl.\u00a0 Mae gofal meddygol yn ddrud a\u2019r tu hwnt i bocedi cyfartaledd y boblogaeth.\u00a0&#8230; <\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"template-full-width.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-13393","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/13393","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13393"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/13393\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":13679,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/13393\/revisions\/13679"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13393"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}