{"id":21690,"date":"2025-02-24T22:04:22","date_gmt":"2025-02-24T22:04:22","guid":{"rendered":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/?page_id=21690"},"modified":"2025-04-07T18:02:20","modified_gmt":"2025-04-07T18:02:20","slug":"community-power-proving-sustainable-development-works-in-madagascar","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/our-programmes\/forests-and-livelihoods\/community-power-proving-sustainable-development-works-in-madagascar\/","title":{"rendered":"Grym y gymuned: profi fod datblygu cynaliadwy yn llwyddo ym Madagascar"},"content":{"rendered":"<p>Mae Arian i Fadagascar a phobl Madagascar wedi dangos y gall datblygu cynaliadwy greu dyfodol gwell i\u2019r ynys, mewn prosiect sy\u2019n grymuso cymunedau i warchod eu hamgylchedd a gwella eu hincwm a\u2019u safonau byw yr un pryd.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-21694 alignleft\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/20240719_MfM_Parcelle-de-culture-maraichere-Maroamalo-e1742854538788-270x300.jpg\" alt=\"\" width=\"270\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/20240719_MfM_Parcelle-de-culture-maraichere-Maroamalo-e1742854538788-270x300.jpg 270w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/20240719_MfM_Parcelle-de-culture-maraichere-Maroamalo-e1742854538788-600x666.jpg 600w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/20240719_MfM_Parcelle-de-culture-maraichere-Maroamalo-e1742854538788.jpg 748w\" sizes=\"auto, (max-width: 270px) 100vw, 270px\" \/>Mae ein cynllun Grymuso Cymunedau ar Gyfer Cadwraeth a Bywoliaethau ym Madagascar (GCGCBM), gyda chefnogaeth y Critical Ecosystem Partnership Fund (CEPF), wedi llwyddo i helpu miloedd o bobl Madagascar i wella eu hincwm, a\u2019u rheolaeth tros hynny, gan warchod a hyrwyddo\u2019r amgylchedd unigryw, hanfodol, lle maen nhw\u2019n byw.<\/p>\n<p>Rhwng Gorffennaf 2023 a Rhagfyr 2024, bu ein prosiect yn gweithio gyda chymunedau mewn tair Ardal Bioamrywiaeth Allweddol ym Madagascar: Glannau Afon Onilahy a Chlwstwr Delta Llyn Ihotry-Mangoky yn y De-orllewin, a Tsinjoarivo yn Ucheldiroedd Madagascar.<\/p>\n<p>Mae Ardaloedd Bioamrywiaeth Allweddol yn cynnwys rhywfaint neu\u2019r cyfan o\u2019r rhain: bioamrywiaeth sydd mewn peryg, bioamrywiaeth sy\u2019n gyfyng o ran daearyddiaeth, bioamrywiaeth sydd o bwys ecolegol eithriadol, prosesau bywydegol anarferol, neu blanhigion a chreaduriaid sydd heb eu tebyg.<\/p>\n<p>Mae\u2019r tair ardal yn gartref i fywyd gwyllt a phlanhigion sydd wedi eu bygwth, a llawer o\u2019r rheiny\u2019n unigryw i\u2019w rhanbarth, gan gynnwys coedwig bigog Onilahy, lle mae 53% o rywogaethau ac wyth genws llawn yn endemig. Mae hynny\u2019n wir hefyd am lawer o lemwriaid, crwbanod ac adar.<\/p>\n<p>Mae Clwstwr Delta Llyn Ihotry-Mangoky yn gartref i goedwig baobab a nifer o rywogaethau endemig o greaduriaid a phlanhigion, yn arbennig adar y d\u0175r, tra bod ardal Tsinjaorivo yn cynnwys o leia\u2019 11 rhywogaeth o brimatiaid, 17 rhywogaeth\u00a0 o tenrec (yr amrywiaeth mwya\u2019 ym Madagascar o deulu sy\u2019n unigryw i\u2019r ynys), saith rhywogaeth o gnofilod (a phump o\u2019r rheiny\u2019n endemig), chwech anifail cigysol (a phedwar o\u2019r rheiny\u2019n endemig) ac o leia\u2019 247 rhywogaeth o blanhigion.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 bod yna gyfrifoldeb arnon ni i gyd i warchod y rhyfeddodau amgylcheddol hyn, mae hefyd er budd pawb ar y blaned: mae coedwigoedd glaw Madagascar a mannau eraill yn rhan gwbl ganolog i\u2019n hymdrechion a\u2019n gobeithion i gyfyngu ar effeithiau niweidiol newid hinsawdd.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-21695 alignright\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/20240429_MfM_Photo-de-groupe-MfMPFTM_Abohimahavelona_cPaverne-300x169.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"169\" srcset=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/20240429_MfM_Photo-de-groupe-MfMPFTM_Abohimahavelona_cPaverne-300x169.jpg 300w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/20240429_MfM_Photo-de-groupe-MfMPFTM_Abohimahavelona_cPaverne-1024x577.jpg 1024w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/20240429_MfM_Photo-de-groupe-MfMPFTM_Abohimahavelona_cPaverne-768x433.jpg 768w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/20240429_MfM_Photo-de-groupe-MfMPFTM_Abohimahavelona_cPaverne-1536x866.jpg 1536w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/20240429_MfM_Photo-de-groupe-MfMPFTM_Abohimahavelona_cPaverne-2048x1155.jpg 2048w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/20240429_MfM_Photo-de-groupe-MfMPFTM_Abohimahavelona_cPaverne-600x338.jpg 600w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/>Ond mae pobl Madagascar, sydd trwy ddamwain eu man geni, wedi cael y cyfrifoldeb o ddiogelu\u2019r adnodd ecolegol unigryw a hanfodol yma, hefyd yn wynebu heriau mawr. Mae tua 79.7% o bobl Madagascar yn byw ar yr isafswm tlodi byd-eang o \u00a31.73 y dydd, neu lai.<\/p>\n<p>Amaethyddiaeth yw 25% o Gynnyrch Cartref Crynswth (GDP) Madagascar, yn cyflogi 80% o\u2019r bobl ac yn cyfri\u2019 am 80% o asedau\u2019r wlad: mae\u2019n hawdd deall pam ei bod yn demtasiwn i lawer o bobl Falagasaidd glirio rhannau o\u2019r coedwigoedd glaw er mwyn cael tir ychwanegol ffrwythlon i\u2019w ffermio.<\/p>\n<p>Yn Arian i Fadagascar, gwyddom nad oes raid cael gwrthdaro na chroesddweud rhwng datblygu, gwella bywoliaethau a safonau byw, gwella addysg, iechyd a deiet, cael d\u0175r gl\u00e2n, lloches a dillad, ar un llaw, a gwarchod a hyrwyddo\u2019r amgylchedd naturiol, ar y llall.<\/p>\n<p>Fel y rhan fwya\u2019 o\u2019n rhaglenni, mae ein cynllun GCGCBM yn cydnabod y gall datblygu a\u2019r amgylchedd fynd law yn llaw ac mai pobl Madagascar sy\u2019n gwybod orau beth sydd arnyn nhw ei angen i wella eu safonau byw, a sut i wneud hynny.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-21696 alignleft\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/20240426_MfM_Reunion-GEC-Ambiky_Henintsoa-300x169.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"169\" srcset=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/20240426_MfM_Reunion-GEC-Ambiky_Henintsoa-300x169.jpg 300w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/20240426_MfM_Reunion-GEC-Ambiky_Henintsoa-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/20240426_MfM_Reunion-GEC-Ambiky_Henintsoa-768x432.jpg 768w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/20240426_MfM_Reunion-GEC-Ambiky_Henintsoa-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/20240426_MfM_Reunion-GEC-Ambiky_Henintsoa-2048x1152.jpg 2048w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/20240426_MfM_Reunion-GEC-Ambiky_Henintsoa-600x338.jpg 600w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/>Gyda chymorth gan CEPF, rydym wedi creu cronfa ariannol ar gyfer pobl Falagasaidd, gan gynnwys menywod, grwpau lleiafrifol bregus a phobl ifanc i sefydlu a gweithredu prosiectau sy\u2019n gwarchod coedwigoedd glaw unigryw a hanfodol Madagascar ac yn cynnyddu incwm a gwytnwch yn wyneb newid hinsawdd.<\/p>\n<p>Rydym wedi llwyddo i helpu cymunedau Malagasaidd i greu a gweithredu 19 VOI Communaut\u00e9s Locales de Base\/Cymunedau Lleol Llawr Gwlad (COBA), a phob un yn cynnwys tua 350 o aelodau. Cawson nhw eu rhannu yn 93 Cymdeithas Gynilion a Benthyciadau Pentref neu Grwpiau Cynilo Cymunedol.<\/p>\n<p>Ymhlith gwasanaethau eraill, roedd y cyrff cymunedol hyn yn darparu benthyciadau a grantiau i alluogi pobl i wella eu technegau ffermio, i hyfforddi mewn sgiliau newydd a phrynu offer a hadau.<\/p>\n<p>Roedden nhw\u2019n sicrhau bod yr holl aelodau yn clywed ceisiadau ac yn gwneud penderfyniadau yngl\u0177n \u00e2 benthyciadau ar gyfer gweithgareddau arfaethedig, gan gynnig cefnogaeth a chyngor ariannol i\u2019r holl aelodau wrth iddyn nhw ddatblygu a gweithredu eu prosiectau a\u2019u helpu i roi strwythur arnyn nhw ynghyd ag ystyried elfennau ychwanegol a allai gyfrannu at eu llwyddiant.<\/p>\n<p>Roedd ein gwaith yn galluogi a chefnogi pobl Falagasaidd i gynnal eu gweithgareddau coedwigaeth eu hunain, gan gynnwys agro-goedwigaeth, gwella lefelau cynnyrch a chynaliadwyedd amethyddol, adfer cynefinoedd diraddiedig \u2013 gan gynnwys pridd a ddifrodwyd a\u2019i golli oherwydd digwyddiadau tywydd anarferol yn sgil newid hinsawdd \u2013 a hyfforddi arweinwyr ifanc i ddarparu gwasanaethau coedwigaeth cefnogol.<\/p>\n<p>Roedd y cynllun yn enghraifft o fodel pwerus y gall eraill ei ddilyn, gan gyfuno ymbweru cymunedol, gwytnwch economaidd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Roedd yn darparu:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Arweinyddiaeth Ieuenctid ym maes Datblygu <\/strong>\u2013 llwyddon ni i hyfforddi <strong>75 o arweinwyr ifanc, a 42 ohonyn nhw\u2019n fenywod<\/strong>, i ddarparu arweiniad agro-ecolegol, i wella llywodraethiant a bywoliaethau lleol.<\/li>\n<li><strong>Cynilion Cymunedol ar gyfer Sefydlogrwydd<\/strong> \u2013 <strong>93 gr\u0175p cynilo, gyda 2,488 aelod, a 60% ohonyn nhw\u2019n fenywod<\/strong>, a\u2019r rheiny\u2019n cryfhau gwytnwch ariannol a chyllido cadwraeth.<\/li>\n<li><strong>Ffermio Cynaliadwy ar gyfer Gwytnwch Hinsawdd<\/strong> \u2013 roedd <strong>77% o\u2019r tylwythau a fu\u2019n cymryd rhan<\/strong> wedi o leia\u2019 dreblu eu cynnyrch amaethyddol, wedi cynyddu incwm o 47% a lleihau costau ffermio o ddau-draean.<\/li>\n<li><strong>Llywodraethiant Lleol Cryfach<\/strong> \u2013 mae gwella prosesau penderfynu, cyfathrebu a chyfranogi o fewn grwbiau COBA\/VOI wedi arwain at well rheolaeth ar adnoddau naturiol.<\/li>\n<li><strong>Cadwraeth ar Waith<\/strong> \u2013 mae rhagor o gyfranogi cymunedol a sefydlogrwydd ariannol wedi arwain at ailgoedwigo a gwell trefn o batrolau i ddiogelu coedwigoedd.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Meddai Christiane Randrianarisoa, Rheolwr Rhaglenni Arian i Fadagascar a\u2019r Ysgogydd Rhwydweithio ac Adnoddau ar gyfer y rhaglen Coedwigoedd Gwydn a Bywoliaethau:<\/p>\n<p>\u2018Mae\u2019r prosiect wedi tanlinellu grym perchnogaeth leol, gan ddangos bod newid yn effeithiol a pharhaol pan fydd cymunedau, yn enwedig pobl ifanc, yn arwain.<\/p>\n<p>\u2018Mae cysylltu anogaeth economaidd gyda chadwraeth yn helpu i ysgogi cymunedau i warchod eu hamgylchedd. Tra bod heriau tefniadaeth mewn ardaloedd anghysbell wedi gofyn am addasu dulliau, mae llwyddiant y prosiect yn cynnig model i\u2019w ddynwared mewn rhanbarthau eraill.<\/p>\n<p>\u2018Mae wedi helpu creu cymunedau cryfach ac ecosystemau ffyniannus ac yn dangos sut y gall pobl Madagascar sicrhau gwir ddatblygu cynaliadwy.\u2019<\/p>\n<p style=\"text-align: center;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-21952\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/20241017_SADABE_Parcelle-DAF-de-RANDRIAMITANTSOA-Fidele2-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/20241017_SADABE_Parcelle-DAF-de-RANDRIAMITANTSOA-Fidele2-300x200.jpg 300w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/20241017_SADABE_Parcelle-DAF-de-RANDRIAMITANTSOA-Fidele2-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/20241017_SADABE_Parcelle-DAF-de-RANDRIAMITANTSOA-Fidele2-768x512.jpg 768w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/20241017_SADABE_Parcelle-DAF-de-RANDRIAMITANTSOA-Fidele2-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/20241017_SADABE_Parcelle-DAF-de-RANDRIAMITANTSOA-Fidele2-2048x1365.jpg 2048w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/20241017_SADABE_Parcelle-DAF-de-RANDRIAMITANTSOA-Fidele2-600x400.jpg 600w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Arian i Fadagascar a phobl Madagascar wedi dangos y gall datblygu cynaliadwy greu dyfodol gwell i\u2019r ynys, mewn prosiect sy\u2019n grymuso cymunedau i warchod eu hamgylchedd a gwella eu hincwm a\u2019u safonau byw yr un pryd. Mae ein cynllun Grymuso Cymunedau ar Gyfer Cadwraeth a Bywoliaethau ym Madagascar (GCGCBM), gyda chefnogaeth y Critical Ecosystem Partnership Fund (CEPF), wedi llwyddo i helpu miloedd o bobl Madagascar i wella eu hincwm, a\u2019u rheolaeth tros hynny, gan warchod a hyrwyddo\u2019r amgylchedd unigryw, hanfodol, lle maen nhw\u2019n byw. Rhwng Gorffennaf 2023 a Rhagfyr 2024, bu ein prosiect yn gweithio gyda chymunedau mewn tair&#8230; <\/p>\n","protected":false},"author":18,"featured_media":21691,"parent":33,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"template-no-sidebar.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-21690","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/21690","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/18"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=21690"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/21690\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":22144,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/21690\/revisions\/22144"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/33"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21691"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21690"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}