{"id":23529,"date":"2025-11-14T16:48:25","date_gmt":"2025-11-14T16:48:25","guid":{"rendered":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/?page_id=23529"},"modified":"2025-12-01T14:33:52","modified_gmt":"2025-12-01T14:33:52","slug":"annual-reports-2025","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/annual-reports-2025\/","title":{"rendered":"Bostiad Blynyddol Arian i Fadagascar (AiF) 2025"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2 style=\"text-align: center;\">Bostiad Blynyddol Arian i Fadagascar (AiF) 2025<\/h2>\n<p><a href=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/Adroddiad-Blynyddol.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\" wp-image-24089 aligncenter\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/Welsh-AR-cover-image-300x209.png\" alt=\"\" width=\"598\" height=\"416\" srcset=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/Welsh-AR-cover-image-300x209.png 300w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/Welsh-AR-cover-image-768x536.png 768w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/Welsh-AR-cover-image-600x418.png 600w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/Welsh-AR-cover-image.png 995w\" sizes=\"auto, (max-width: 598px) 100vw, 598px\" \/><\/a><\/p>\n<p style=\"text-align: center;\">Lot ITP 13 Bis, Antsavatsava, Itaosy, Antananarivo, Madagascar, t.\u00a0+261 38 35 259 98<\/p>\n<p style=\"text-align: center;\">\u00a0Halton Mill Cooperative, Mill Lane, Halton, Lancaster, LA2 6ND, UK. t. +44(0) 7956147316<\/p>\n<h4 style=\"text-align: center;\"><a href=\"mailto:admin@moneyformadagascar.org\">admin@moneyformadagascar.org<\/a><\/h4>\n<p style=\"text-align: center;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-24088\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/Welsh-logo-300x300.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/Welsh-logo-300x300.jpg 300w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/Welsh-logo-150x150.jpg 150w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/Welsh-logo-600x598.jpg 600w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/Welsh-logo-100x100.jpg 100w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/Welsh-logo.jpg 737w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<h4 style=\"text-align: center;\">Malagasy Accord de Si\u00e8ge No. 24\/035-AE\/SG\/DGPDD\/DPPD\/SONGE-MF<\/h4>\n<h4 style=\"text-align: center;\">UK Registered Charity No. 1001420<\/h4>\n<p id=\"tw-target-text\" class=\"tw-data-text tw-text-large tw-ta\" dir=\"ltr\" style=\"text-align: center;\" tabindex=\"-1\" role=\"text\" data-placeholder=\"Translation\" data-ved=\"2ahUKEwjP36OxxpyRAxV32QIHHcEWJl4Q3ewLegQIDBAV\" aria-label=\"Translated text: Noddwyr\"><strong><span class=\"Y2IQFc\" lang=\"cy\">Noddwyr<\/span><\/strong><\/p>\n<p style=\"text-align: center;\">Lord Anderson of Swansea,\u00a0Hilary Bradt MBE,\u00a0Dr Lee Durrell MBE,\u00a0Barbara &amp; Allan Prys-Williams,<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4 id=\"tw-target-text\" class=\"tw-data-text tw-text-large tw-ta\" dir=\"ltr\" style=\"text-align: center;\" tabindex=\"-1\" role=\"text\" data-placeholder=\"Translation\" data-ved=\"2ahUKEwjP36OxxpyRAxV32QIHHcEWJl4Q3ewLegQIDBAV\" aria-label=\"Translated text: rhagfyr\"><span class=\"Y2IQFc\" lang=\"cy\">rhagfyr 2025<\/span><\/h4>\n<h4>Annwyl Gyfeillion,<\/h4>\n<h4>Croeso i Bostiad Blynyddol Arian i Fadagascar (AiF) 2025.<\/h4>\n<h4>Y postiad yw\u2019r cyfle i ni edrych gydag un llygad ar y gorffennol ac un ar y dyfodol, wedi ein hysbrydoli gan y ddihareb Falagasaidd &#8211; \u2018Ataovy dian-tana: jerena ny aloha, todihana ny afara.\u2019; \u2018byddwch fel y camelion \u2013 edrychwch ymlaen a gwyliwch y tu \u00f4l\u2019.<\/h4>\n<h4>Ac eleni, mae\u2019r dywediad yn arbennig o addas.<\/h4>\n<h4>Gwelodd y 12 mis diwethaf newidiadau rhyngwladol anferth sy\u2019n effeithio ar bobl, gan gynnwys y cymunedau Malagasi yr ydym yn cydweithio \u00e2 nhw. Mae hefyd ddatblygiadau \u2013 ar droed o hyd \u2013 o fewn Arian i Fadagascar er mwyn parhau\u2019n ystwyth a hyrwyddo ein hegwyddorion sylfaenol: cael ein harwain gan anghenion a chreadigrwydd y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae 2026 hefyd yn garreg filltir i AiF \u2013 ein pen-blwydd yn 40 oed.<\/h4>\n<h4>Yn y cyd-destun hwn, mae\u2019n bleser cyflwyno ein <a href=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/Adroddiad-Blynyddol.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Hadroddiad Blynyddol<\/a>, cylchlythyr newyddion o ganolfannau plant Akany Avoko Ambohidratrimo a Bevalala, gwybodaeth am ein hymgyrch <a href=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/Rhoi-Mawr.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Rhoi Mawr<\/a> tros blant Malagasi, gwybodaeth am ein calendr \u2013 sydd eleni\u2019n nodi ein 40fed pen-blwydd, gyda straeon am ddycnwch a thrawsnewid a gwerth partneriaethau wrth wneud i hyn oll ddigwydd \u2013 a gwybodaeth am ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn arbennig hon.<\/h4>\n<h4>Yn 1986 y dechreuon ni, pan gamodd ffrindiau Malagasi ein sylfaenydd, Barbara Prys-Williams, i\u2019r bwlch i ymateb i drychinebau naturiol a\u2019r argyfwng economaidd a drawodd Madagascar. Fe droeson nhw at Barbara i weld a allai hi godi arian i gefnogi eu syniadau a, gyda chymorth ei g\u0175r, Allan, a Chwrdd Crynwyr Abertawe, gwnaeth hynny. Yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, rydym wedi cael ein harwain gan yr ethos yna ac wedi gweithio i\u2019w gynnal. Rydym yn gweithio gyda mudiadau a chymunedau Malagasi i gynnnig cymorth ac i\u2019w cefnogi nhw i\u2019w hatgyfnerthu eu hunain. Rydym yn bod i ddatgloi potensial Madagascar i gynnig atebion Malagasi i heriau Malagasi.<\/h4>\n<h4>Rydym yn llawn cyffro i ddathlu ein pen-blwydd gyda chi i gyd, ein cefnogwyr, partneriaid a chymunedau ym Madagascar a\u2019r Deyrnas Unedig. Mae 40 mlynedd o gydweithio cryf yn gofyn am gyndabyddiaeth hael o\u2019ch ffydd ddi-ildio yn ein gwaith gyda\u2019n gilydd a pham ei fod o bwys. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am gael rhannu\u2019r fath angerdd ac ymrwymiad i Fadagascar. Rydym yn si\u0175r y bydd ein brawddeg ddathlu, a ddiffiniwyd gyda\u2019n partneriaid, yn ddisgrifiad da o\u2019n hawydd i fyw gwerthoedd cydweithio a phartneriaeth.<em> \u2018Ny hazo tokana tsy mba ala, ny firaisakina no hery\u2019\u00a0 : \u2018Un goeden nid yw&#8217;n goedwig, cryfach ynghyd.\u2019 (<\/em>neu, mewn fersiwn byrrach<em>: \u2018Ny firaisakina no hery\u2019 : \u2018Cryfach ynghyd.\u2019)<\/em><\/h4>\n<h4>Yn y pecyn yma, rydym wedi cynnwys gwybodaeth am yr hyn y byddwn yn ei wneud, a phryd, gan gynnwys cystadlaethau, digwyddiadau dathlu, prosiectau a chynlluniau cynyddu gallu a chreu partneriaethau. Gallwch weld mwy ar ein gwefan. Rhannwch y ddogfen os gwelwch yn dda \u2013 rhowch hi mewn man cyhoeddus, rhannwch hi gyda\u2019ch ffrindiau, perthnasau, cydweithwyr a sefydliadau: mae croeso i bawb fod yn rhan o\u2019r dathlu!<\/h4>\n<h4>Wrth edrych yn \u00f4l ar eleni, rydym yn falch o\u2019n llwyddiannau gyda\u2019n gilydd ac yn hynod ddiolchgar amdanyn nhw. Oherwydd eich cred barhaus yn ein nod, mae plant yn dysgu mewn ysgolion mwy hapus a mwy diogel, mae teuluoedd yn creu bywoliaeth well a chymunedau yn arwain wrth warchod amgylchedd gwerthfawr Madagascar.<\/h4>\n<h4>Un esiampl yr ydym yn llawn cyffro yn ei chylch yw\u2019r Ganolfan Fentora newydd yn Ambohidratrimo.\u00a0 Mae eisoes yn llawn pobl ifanc yn astudio, yn breuddwydio am eu dyfodol ac yn ennill sgiliau ar gyfer gwaith a bywyd. Ynni gl\u00e2n dibynadwy sy\u2019n pweru\u2019r holl adeilad, wedi ei ddarparu trwy gonsortiwm Solar United Madagascar, ble\u2019r ydym yn gweithio gyda\u2019n partneriaid, gan gryfhau ein hymrwymiad i warchod yr amgylchedd.<\/h4>\n<h4>Ledled Madagascar, mae grwpiau lleol yn arwain y gwaith o drawsffurfio\u2019u pentrefi. Trwy grwpiau cynilo a benthyca a ffermio amgylcheddol-ddoeth, mae mwy na 5,000 o bobl yn cynyddu eu hincwm wrth ofalu am y tir sy\u2019n eu cynnal. Trwy gefnogi 20 ysgol mewn ardaloedd gwledig, rydym wedi\u2019i gwneud yn haws i fwy na 8,000 o ddisgyblion, athrawon a rhieni gael addysg, llesiant a chyfleoedd \u2013 a hynny wrth barhau i gefnogi 560 o\u2019r plant mwyaf bregus, sy\u2019n dibynnu ar ganolfannau gofal am loches, maeth, iechyd a diogelwch.<\/h4>\n<h4>Oherwydd eich teyrngarwch chi y cyflawnwyd pob cam \u2013 hyd yn oed mewn blwyddyn o ansicrwydd bydeang.<\/h4>\n<h4>Parhau y mae\u2019r ansicrwydd. Bydd toriadau anferth mewn cymorth gan wledydd ledled y byd yn gwneud bywyd yn galetach fyth i lawer o\u2019r cymunedau yr ydym yn cydweitho \u00e2 nhw. Mae disgwyl i Madagascar yn unig golli \u00a395 miliwn o gefnogaeth erbyn 2026. Er nad ydym yn dibynnu\u2019n llwyr ar gyllid llywodraeth, mae\u2019r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu yn sicr yn dibynnu arno.<\/h4>\n<h4>Ac, eto, mae gobaith. Rydym wrth ein bodd i sicrhau grant Cynllun Darwin llywodraeth y Deyrnas Unedig eleni. Bydd yn caniat\u00e1u i 800 ffermwr a\u2019u teuluoedd greu bywoliaethau gwydn wrth ofalu am eu tir a\u2019u hamgylchedd lleol. Rydym yn benderfynol fod pwysigrwydd bydeang Madagascar yn parhau\u00a0 i gael ei gydnabod a bod cymunedau Malagasi\u2019n cael cefnogaeth i arwain y gwaith.<\/h4>\n<h4>Fel erioed, mae rhagor i\u2019w wneud. Ac, fel erioed, mae eich cefnogaeth yn allweddol. Gwyddom fod ar blant Madagascar angen iechyd, addysg ac, yn aml, ddiogelwch a chymorth gofal \u2013 mae ein rhaglen Plant at y Dyfodol yn helpu i sicrhau hyn.<\/h4>\n<h4>Mae ein Canolfan Fentora\u2019n esiampl o sut yr ydym yn helpu pobl ifanc i osod syfleini ar gyfer dyfodol llewyrchus a chymunedau cyfan i gyfeirio mentrau a thechnoleg i wella bywydau. Mae\u2019r angen yno. Gyda\u2019ch cefnogaeth chi, yn bartneriaid a chymunedau Malagasi, byddwn yn parhau i gwrdd ag ef.<\/h4>\n<h4>Er i ni fynd i mewn i fyd newydd, rydym mewn gwell sefyllfa nag erioed i wneud rhynny. Gwelodd eleni newid mawr: mae Arian i Fadagascar, i raddau mwy fyth, yn dod yn gorff dan arweiniad Malagasiaid. Un uned fydeang ydym ni, yn gweithio o Fadagascar ac ynddi, gan ddwyn sgiliau ac arbenigedd bydeang i gefnogi a chryfhau arweinyddiaeth Falagasi.<\/h4>\n<h4>Byddwch bellach yn deall pam eim bod wedi dewis Cryfach Ynghyd yn frawddeg pen-blwydd.<\/h4>\n<h4>Diolch yn ddidwyll am barhau i gredu yn y gwaith hwn, ym mhotensial Madagascar ac ym mhob plentyn a theulu sy\u2019n cael eu cyffwrdd gan eich caaredigrwydd.<\/h4>\n<h4>Gyda chofion cynnes, ary misaotra anao indrindra izahay,<\/h4>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-23533\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Lova-digital-signature.png\" alt=\"\" width=\"119\" height=\"52\" \/><\/p>\n<h4>Lova Rasoalinoro, Prif Weithredwr, AiF<\/h4>\n<h4>A gan d\u00eem AiF:<em>\u00a0<strong>Iren\u00e9e,<\/strong>\u00a0<strong>William, Tabby, Riana, Christiane, Donald,\u00a0Manuel\u00e0, Rory, Anna, Haja, Nduka, Daniel,\u00a0Henintsoa<\/strong><\/em>, <strong>ein noddwyr, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, partneriaid, cymunedau a chefnogwyr<\/strong>.<\/h4>\n<p style=\"text-align: center;\"><a href=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/Adroddiad-Blynyddol.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-24090\" src=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/Welsh-AR-2-300x211.png\" alt=\"\" width=\"601\" height=\"423\" srcset=\"https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/Welsh-AR-2-300x211.png 300w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/Welsh-AR-2-768x539.png 768w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/Welsh-AR-2-600x421.png 600w, https:\/\/moneyformadagascar.org\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/Welsh-AR-2.png 996w\" sizes=\"auto, (max-width: 601px) 100vw, 601px\" \/><\/a><\/p>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bostiad Blynyddol Arian i Fadagascar (AiF) 2025 Lot ITP 13 Bis, Antsavatsava, Itaosy, Antananarivo, Madagascar, t.\u00a0+261 38 35 259 98 \u00a0Halton Mill Cooperative, Mill Lane, Halton, Lancaster, LA2 6ND, UK. t. +44(0) 7956147316 admin@moneyformadagascar.org Malagasy Accord de Si\u00e8ge No. 24\/035-AE\/SG\/DGPDD\/DPPD\/SONGE-MF UK Registered Charity No. 1001420 Noddwyr Lord Anderson of Swansea,\u00a0Hilary Bradt MBE,\u00a0Dr Lee Durrell MBE,\u00a0Barbara &amp; Allan Prys-Williams, &nbsp; rhagfyr 2025 Annwyl Gyfeillion, Croeso i Bostiad Blynyddol Arian i Fadagascar (AiF) 2025. Y postiad yw\u2019r cyfle i ni edrych gydag un llygad ar y gorffennol ac un ar y dyfodol, wedi ein hysbrydoli gan y ddihareb Falagasaidd &#8211; \u2018Ataovy dian-tana:&#8230; <\/p>\n","protected":false},"author":18,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-23529","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/23529","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/18"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=23529"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/23529\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":24095,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/23529\/revisions\/24095"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=23529"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}