{"id":88,"date":"2019-02-27T12:06:30","date_gmt":"2019-02-27T12:06:30","guid":{"rendered":"http:\/\/moneyformadagascar.org\/?page_id=88"},"modified":"2020-02-28T15:31:21","modified_gmt":"2020-02-28T15:31:21","slug":"how-we-help","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/what-we-do\/how-we-help\/","title":{"rendered":"Sut Rydym ni\u2019n Helpu"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<div class=\"edbox\">\n<h4><span style=\"color: #ffffff;\">Nid yw cyfraniad i Money for Madagascar yn cael ei wastraffu ar fflyd o geir 4\u00d74, ymgyrchoedd hysbysebu slic neu ymgyrchoedd postio sy\u2019n medru mynd dan groen rhywun. Caiff yr arian ei ddanfon at y bobl frwdfrydig, ddibynadwy, dyfeisgar sydd ei angen er mwyn noddi mentrau bychain o ran maint fydd yn gwneud gwahaniaeth parhaol i gymunedau ar draws Madagascar. Daw\u2019r gwahaniaeth parhaol drwy fod pobl Madagascar yn helpu eu hunain drwy gyfrwng prosiectau cynaliadwy a rhannu arferion yn lleol, rhanbarthol ac yn genedlaethol.<\/span><\/h4>\n<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2><span style=\"color: #808000;\">Atebion Malagasaidd i Broblemau Malagasaidd <\/span><\/h2>\n<h4>Bydd unrhyw ymwelydd \u00e2 Madagascar yn sicr o ryfeddu at ddyfeisgarwch a mentergarwch pobl y wlad. Mae Money for Madagascar yn llwyddo i gael canlyniadau mawr gyda symiau bychain o arian drwy harneisio syniadau a gwybodaeth leol pobl Madagascar er mwyn creu atebion fydd yn para ac sy\u2019n gost-effeithiol. Rydym ni\u2019n credu mai pobl Madagascar eu hunain sy\u2019n deall orau beth yw\u2019r materion sy\u2019n effeithio arnynt a nhw hefyd sydd yn y sefyllfa orau i ddod o hyd i ffyrdd realistig o fynd i\u2019r afael \u00e2 hwy.<\/h4>\n<h4>Rydym ni ond yn noddi\u2019r prosiectau hynny sydd wedi\u2019u cynllunio a\u2019u cychwyn gan bobl Madagascar. Unwaith bod cynnig am brosiect wedi\u2019i dderbyn gan ein hymddiriedolwyr, caiff yr arian ei anfon at un o\u2019n partneriaid Malagasaidd ac yna pobl leol fydd yn rheoli\u2019r prosiect hwnnw hyd at ei derfyn. Caiff pob prosiect ei fonitro\u2019n gyson a\u2019i werthuso gan staff MfM er mwyn sicrhau eu bod nhw\u2019n cael effaith gadarnhaol.<\/h4>\n<h2><span style=\"color: #808000;\">Gwobrwyo Dyfeisgarwch<\/span><\/h2>\n<h4>Rydym ni\u2019n ffafrio syniadau sy\u2019n gwneud y defnydd gorau o\u2019r adnoddau sydd ar gael ac rydym ni\u2019n falch i fedru cefnogi prosiectau sydd \u00e2 phwyslais ar ailgylchu a thechnolegau cynaliadwy. Mae\u2019r rhain yn cynnwys systemau cynaeafu d\u0175r glaw, defnydd blaengar o fagiau a photeli plastig a chynhyrchu tanwydd nad yw\u2019n siarcol.<br \/>\nY mae\u2019r fath atebion yn helpu i ostwng costau byw ar gyfer ein buddiolwyr ac yn helpu mynd i\u2019r afael \u00e2 rhai o\u2019r materion amgylcheddol gwaelodol sy\u2019n blino Madagascar ar yr un pryd.<\/h4>\n<h2><span style=\"color: #808000;\">Ymwneud Cymunedol<\/span><\/h2>\n<h4>Rydym ni\u2019n gweithio gyda phartneriaid Malagasaidd sy\u2019n cynnwys eu buddiolwyr ac yn caniat\u00e1u iddynt ymelwa. Wrth noddi prosiectau adeiladu neu atgyweirio rydym ni\u2019n gofyn, ble bo\u2019n bosibl, fod y gymuned leol yn cyfrannu tir, llafur a pha bynnag ddeunydd arall y gallant eu casglu, pethau fel clai, creigiau neu dywod afon ar gyfer prosiectau.<\/h4>\n<h4>Nid yn unig bod hyn yn cadw costau\u2019n isel ond mae hefyd yn ymrwymo\u2019r gymuned leol a\u2019r awdurdodau i\u2019r prosiect ac yn gweithredu fel ffordd barhaol i atgoffa pobl o\u2019r hyn y mae modd ei gyflawni drwy weithredu cymunedol ar y cyd.<\/h4>\n<h2><span style=\"color: #808000;\">Cadw Costau i Leiafswm <\/span><\/h2>\n<h4>Rydym ni\u2019n ymgeisio er mwyn sicrhau bod y cyfraniadau a dderbyniwn yn darparu\u2019r budd mwyaf er mwyn pobl ac amgylchedd Madagascar. Er mwyn cyflawni hyn rydym ni\u2019n cadw ein costau gweithredu ni yn y DU i\u2019r lleiafswm isaf posibl, gan weithredu drwy ddefnyddio staff gwirfoddol, gweithio o\u2019n cartrefi a chadw\u2019n costau postio, ar graffu a gweinyddol yn isel.<\/h4>\n<h4>Y mae\u2019r ffordd \u2018ddi-lol\u2019 hwn o weithio i\u2019w weld ymhob agwedd o\u2019n gwaith. Dydyn ni ddim yn talu cyflogau a chostau byw staff oddi cartref er mwyn rheoli ein prosiectau, yn hytrach rydym ni\u2019n buddsoddi mewn asiantaethau sy\u2019n cael eu rhedeg gan staff Malagasaidd. Wrth ymweld \u00e2 Madagascar, y mae staff MfM yn bwyta, byw a theithio fel y mae ein partneriaid datblygu o Fadagascar yn ei wneud. Y mae ein partneriaid ni\u2019n chwarae eu rhan yn ogystal \u2013 gan weithio i wneud eu costau yn rhai sydd mor gost-effeithiol.<\/h4>\n<h4><\/h4>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Nid yw cyfraniad i Money for Madagascar yn cael ei wastraffu ar fflyd o geir 4\u00d74, ymgyrchoedd hysbysebu slic neu ymgyrchoedd postio sy\u2019n medru mynd dan groen rhywun. Caiff yr arian ei ddanfon at y bobl frwdfrydig, ddibynadwy, dyfeisgar sydd ei angen er mwyn noddi mentrau bychain o ran maint fydd yn gwneud gwahaniaeth parhaol i gymunedau ar draws Madagascar. Daw\u2019r gwahaniaeth parhaol drwy fod pobl Madagascar yn helpu eu hunain drwy gyfrwng prosiectau cynaliadwy a rhannu arferion yn lleol, rhanbarthol ac yn genedlaethol. Atebion Malagasaidd i Broblemau Malagasaidd Bydd unrhyw ymwelydd \u00e2 Madagascar yn sicr o ryfeddu at ddyfeisgarwch&#8230; <\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":20,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"template-full-width.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-88","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/88","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=88"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/88\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":13126,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/88\/revisions\/13126"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/20"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/moneyformadagascar.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=88"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}