Ar ymyl heol brysur yn Antananarivo, prifddinas Madagascar, y mae carreg â geiriau’n gerfiedig arno er cof am ddau Gymro, David Jones a David Griffiths. Y mae Madagascar i’w weld fel lle annhebygol i gael unrhyw gysylltiad â Chymru. Sut ddigwyddodd hyn?
Yn 1818 anfonodd Cymdeithasol Genhadol Llundain (London Missionary Society) ddau ddyn ifanc o orllewin Cymru, ynghyd â’u teuluoedd, i Fadagascar ond, o fewn ychydig wythnosau, bu farw pawb o’r dwymyn heblaw am David Jones. Yn 1820 aeth Cymro ifanc dewr arall allan yno i wasanaethu, sef David Griffiths, cyrhaeddodd yntau a’i wraig y brifddinas yn ddiogel yn 1821.
Dysgodd y ddau David y Falagaseg yn gyflym iawn a dechrau dysgu a phregethu. Gyda chefnogaeth weithredol y Brenin Radama fe adeiladon nhw system o ysgolion ar gyfer merched a bechgyn a chyda chymorth disgyblion mwy abl, fe gyfieithon nhw’r Beibl a nifer o lyfrau eraill i’r Falagaseg.
Y mae nifer fawr o genhadon o Brydain ac athrawon gwirfoddol (gan gynnwys nifer o Gymru) wedi gwasanaethu ym Madagascar dros y 200 mlynedd diwethaf. Yn fwy diweddar y mae gwirfoddolwyr wedi dychwelyd y gymwynas drwy wirfoddolwyr ar brosiectau cymdeithasol yng Nghymru, er enghraifft ym Mhen-rhys yn y Rhondda.
Cychwynnwyd Money for Madagascar gan wirfoddolwyr mewn partneriaeth â sefydliadau anllywodraeth cenedlaethol (NGO) ym Madagascar. Y mae cefnogaeth gan gymunedau yng Nghymru yn parhau i fod yn bwysig i MfM. Cadwch lygad barcud ar ein tudalennau gwefan ni am fwy o dudalennau yn Gymraeg.
Y Newyddion Diweddaraf
Yn 2018–19 dathlodd miloedd o bobl yng Nghymru a Madagascar y cyfeillgarwch rhwng y ddwy wlad a barodd 200 mlynedd.
Daeth pobl Madagascar a Chymru at ei gilydd ar gyfer y dathliadau daucanmlwyddiant yn 2018–19, ac fe ddathlwyd ym Madagascar ac yng Nghymru drwy theatr, dawns, cerddoriaeth a gwasanaethau o ddiolchgarwch. Ailgyneuwyd hen atgofion a chrëwyd sawl cyfeillgarwch newydd. Yr hyn a dyfodd allan o’r dathliadau hyn oedd ymdeimlad o undod rhwng y Cymry a’r Malagasi. Cafwyd apêl hynod lwyddiannus gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, a chodi dros £150,000 ar gyfer prosiectau ym Madagascar. Y mae MfM wrth eu bodd o gael y fraint o weinyddu’r grantiau hyn ar gyfer UAC.
Pan fydd yr apêl wedi cau a’r grantiau wedi’u pennu. Bydd MfM yn hynod falch i ddod â’r wybodaeth ddiweddaraf a’r newyddion i chi am y gwahaniaeth anhygoel fydd yn digwydd gydag arian Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
Dilynwch y ddolen hon i ddysgu mwy am Apêl Madagascar Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, gan gynnwys fideos am y prosiectau ym Madagascar fydd yn elwa o’r apêl. https://annibynwyr.org/madagascar-2/fideos-madagascar
Mae’r dathliadau daucanmlwyddiant hefyd wedi ysbrydoli unigolion a grwpiau bychain yng Nghymru i wneud ei cysylltiadau cyfeillgarwch eu hunain gyda Madagascar. Y mae perthynas newydd yn blaguro yn ogystal â chydweithio newydd ar waith…
Er enghraifft, mae un grŵp o gefnogwyr o Gymru newydd noddi adnewyddu adeilad ysgol hanesyddol, yr ysgol FJKM yn Ambohidratrimo. Dyma rai lluniau i ddangos y cynnydd ar y gwaith adfer to’r ysgol. Eleni, bydd y plant yn medru astudio mewn heddwch, hyd yn oed pan mae’n arllwys y glaw!
I ddarllen mwy am y cysylltiadau hanesyddol a chyfredol rhwng Cymru a Madagascar, rydym ni’n argymell y rhestr ddarllen isod:
Y mae Syr Mervin Brown, cyn lysgennad i Fadagascar, Llywydd yn Gymdeithas Eingl-Falagasi a Noddwr MfM wedi ysgrifennu trosolwg ardderchog o hanes yr Ynys Goch. A History of Madagascar gan Syr Mervyn Brown, cyhoeddwyd gan Damien Tunnacliffe. (ISBN: 09506284 5 X).
Ysgrifennwyd Hanes Madagascar gan David Griffiths yn Gymraeg 200 mlynedd yn ôl, tystiolaeth llygad-dyst, ailgyhoeddwyd y gyfrol yn Gymraeg, gan greu fersiynau yn Saesneg ac yn y Falagaseg hefyd. Y mae cyfrol David Griffiths yn cynnig sylwadau a mewnwelediad hynod ddiddorol ar fywyd ym Madagascar yn y 1800au. Mae’r gyfrol ar gael ar hyn o bryd yn y 3 iaith o siop gwefan MfM.
Hanes Madagascar gan David Griffiths