Sut Rydym ni’n Helpu

Nid yw cyfraniad i Money for Madagascar yn cael ei wastraffu ar fflyd o geir 4×4, ymgyrchoedd hysbysebu slic neu ymgyrchoedd postio sy’n medru mynd dan groen rhywun. Caiff yr arian ei ddanfon at y bobl frwdfrydig, ddibynadwy, dyfeisgar sydd ei angen er mwyn noddi mentrau bychain o ran maint fydd yn gwneud gwahaniaeth parhaol i gymunedau ar draws Madagascar. Daw’r gwahaniaeth parhaol drwy fod pobl Madagascar yn helpu eu hunain drwy gyfrwng prosiectau cynaliadwy a rhannu arferion yn lleol, rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Atebion Malagasaidd i Broblemau Malagasaidd

Bydd unrhyw ymwelydd â Madagascar yn sicr o ryfeddu at ddyfeisgarwch a mentergarwch pobl y wlad. Mae Money for Madagascar yn llwyddo i gael canlyniadau mawr gyda symiau bychain o arian drwy harneisio syniadau a gwybodaeth leol pobl Madagascar er mwyn creu atebion fydd yn para ac sy’n gost-effeithiol. Rydym ni’n credu mai pobl Madagascar eu hunain sy’n deall orau beth yw’r materion sy’n effeithio arnynt a nhw hefyd sydd yn y sefyllfa orau i ddod o hyd i ffyrdd realistig o fynd i’r afael â hwy.

Rydym ni ond yn noddi’r prosiectau hynny sydd wedi’u cynllunio a’u cychwyn gan bobl Madagascar. Unwaith bod cynnig am brosiect wedi’i dderbyn gan ein hymddiriedolwyr, caiff yr arian ei anfon at un o’n partneriaid Malagasaidd ac yna pobl leol fydd yn rheoli’r prosiect hwnnw hyd at ei derfyn. Caiff pob prosiect ei fonitro’n gyson a’i werthuso gan staff MfM er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael effaith gadarnhaol.

Gwobrwyo Dyfeisgarwch

Rydym ni’n ffafrio syniadau sy’n gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael ac rydym ni’n falch i fedru cefnogi prosiectau sydd â phwyslais ar ailgylchu a thechnolegau cynaliadwy. Mae’r rhain yn cynnwys systemau cynaeafu dŵr glaw, defnydd blaengar o fagiau a photeli plastig a chynhyrchu tanwydd nad yw’n siarcol.
Y mae’r fath atebion yn helpu i ostwng costau byw ar gyfer ein buddiolwyr ac yn helpu mynd i’r afael â rhai o’r materion amgylcheddol gwaelodol sy’n blino Madagascar ar yr un pryd.

Ymwneud Cymunedol

Rydym ni’n gweithio gyda phartneriaid Malagasaidd sy’n cynnwys eu buddiolwyr ac yn caniatáu iddynt ymelwa. Wrth noddi prosiectau adeiladu neu atgyweirio rydym ni’n gofyn, ble bo’n bosibl, fod y gymuned leol yn cyfrannu tir, llafur a pha bynnag ddeunydd arall y gallant eu casglu, pethau fel clai, creigiau neu dywod afon ar gyfer prosiectau.

Nid yn unig bod hyn yn cadw costau’n isel ond mae hefyd yn ymrwymo’r gymuned leol a’r awdurdodau i’r prosiect ac yn gweithredu fel ffordd barhaol i atgoffa pobl o’r hyn y mae modd ei gyflawni drwy weithredu cymunedol ar y cyd.

Cadw Costau i Leiafswm

Rydym ni’n ymgeisio er mwyn sicrhau bod y cyfraniadau a dderbyniwn yn darparu’r budd mwyaf er mwyn pobl ac amgylchedd Madagascar. Er mwyn cyflawni hyn rydym ni’n cadw ein costau gweithredu ni yn y DU i’r lleiafswm isaf posibl, gan weithredu drwy ddefnyddio staff gwirfoddol, gweithio o’n cartrefi a chadw’n costau postio, ar graffu a gweinyddol yn isel.

Y mae’r ffordd ‘ddi-lol’ hwn o weithio i’w weld ymhob agwedd o’n gwaith. Dydyn ni ddim yn talu cyflogau a chostau byw staff oddi cartref er mwyn rheoli ein prosiectau, yn hytrach rydym ni’n buddsoddi mewn asiantaethau sy’n cael eu rhedeg gan staff Malagasaidd. Wrth ymweld â Madagascar, y mae staff MfM yn bwyta, byw a theithio fel y mae ein partneriaid datblygu o Fadagascar yn ei wneud. Y mae ein partneriaid ni’n chwarae eu rhan yn ogystal – gan weithio i wneud eu costau yn rhai sydd mor gost-effeithiol.

Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial
Instagram