Rydym ni’n cyllido prosiectau ailgoedwigo ac addysg amgylcheddol mewn ardaloedd sy’n amgylcheddol sensitif.
Rydym ni’n galluogi ein partneriaid i hyrwyddo technegau amaethyddol cynaliadwy er mwyn gwella diogelwch bwyd a disodli technegau sy’n aml yn aneffeithiol ac yn niweidiol i’r amgylchedd.
Rydym ni’n gwella’r rhagolygon i blant sy’n byw mewn cymunedau gwledig wedi’u hynysu drwy adeiladu ysgolion, buddsoddi mewn hyfforddi athrawon ac adnoddau dysgu a mynd i’r afael â newyn drwy sefydlu gerddi cegin ar gyfer ysgolion a ffreuturiau.
Talu am ffynhonnau, toiledau a hyfforddiant WASH er mwyn gwella iechyd a lleihau afiechydon y mae modd eu hatal nhw.
Noddi canolfannau sy’n cefnogi plant digartref ac a adawyd ynghyd â’u teuluoedd.
Noddi hyfforddiant galwedigaethol a darparu grantiau bychain i helpu’r diymgeledd a’r digartref i ddringo allan o dlodi.