WHEELS

W – Dŵr (Water):

Y mae llai na hanner poblogaeth Madagascar â mynediad i gyflenwad dŵr wedi’i drin. Yn ôl WaterAid y mae 62/1000 o blant o dan 5 mlwydd oed yn marw ym Madagascar o ddolur rhydd bob blwyddyn. Rydym ni’n noddi adeiladu gorsafoedd dŵr mewn pentrefi ac ysgolion sydd yn rhy bell o gyflenwad dŵr cyhoeddus. Yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf rydym wedi darparu dŵr yfed diogel, cyfleusterau ymolchi a dŵr ar gyfer dyfrhau gerddi cegin mewn ysgolion ar gyfer 26 o gymunedau.

 

H – Iechyd (Health):

Nid yw un ymhob deg o blant Madagascar yn byw i ddathlu eu pen-blwydd yn 10 oed! Y mae gofal iechyd sylfaenol yn anodd cael gafael arno ar gyfer y boblogaeth wledig ac yn anfforddiadwy i’r tlawd sy’n byw yn y trefi sy’n crafu byw ar lai na $2 y dydd. Bob blwyddyn rydym ni’n edrych ar ôl anghenion meddygol a deintyddol dros 1,000 o blant sy’n cael lloches yn ein canolfannau dydd yn ardal prifddinas Madagascar. Mewn achosion difrifol rydym ni’n talu am driniaethau sy’n achub bywyd a llawdriniaeth mewn ysbyty. Y mae’r gefnogaeth hirdymor a ddarparwn ar ffurf prydau maethlon, addysg iechyd a thriniaeth systematig o anhwylderau sy’n galluogi’r plant i adfer eu hiechyd, cryfder a’u gwytnwch.

 

E – Addysg a Lles Plant (Education and Child Welfare):

Mewn gwlad ble nad yw 1 o bob 4 o blant yn cwblhau addysg gynradd a dim ond traean o’r rheiny sy’n cwblhau addysg gynradd … Y mae llawer o waith i’w wneud i sicrhau bod modd cael mynediad at addysg. Y mae ystafelloedd dosbarth annigonol yn broblem allweddol, felly mae MfM yn darparu grantiau ar gyfer adeiladu ystafelloedd dosbarth newydd i ysgolion neu’n ailosod rhai a ddifrodwyd gan seiclonau. Ers 2005 rydym ni wedi noddi adeiladu neu atgyweirio dros 100 ystafell ddosbarth. Er mwyn i blant lwyddo mae angen athrawon medrus, brwdfrydig sydd ag adnoddau sylfaenol fel gwerslyfrau. Y mae rhaglen Addysg er mwyn Bywyd (Ed4Life) yn helpu cyflenwi athrawon gyda’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf. Mae dros 10,000 o fyfyrwyr mewn 56 ysgol wedi elwa o’r rhaglen hon yn ystod y 6 blynedd diwethaf. Y mae pob ysgol yn elwa o: hyfforddiant athrawon, addysg amgylcheddol, llyfrgelloedd ysgol, ynni solar, dŵr toiledau, gerddi cegin i ysgolion a ffreuturiau ysgol.
I rai plant mae’n amhosibl cael mynediad at addysg prif ffrwd. Drwy gefnogi 7 canolfan ar gyfer pobl ifanc ddiymgeledd ac agored i niwed, rydym ni’n galluogi dros 1,000 o blant y flwyddyn i gael mynediad at addysg. Y mae cefnogaeth hirdymor o blant unigol yn eu galluogi nhw i aros gyda’u haddysg a chyrraedd at gymwysterau academaidd a galwedigaethol. Rhoddir cymorth hefyd i gynorthwyo pobl ifanc i ddarganfod neu i greu eu cyflogaeth eu hunain ar ddiwedd eu hastudiaethau.

 

E – Amgylchedd (Environment):

Rydym ni’n noddi prosiectau mewn mwy na 100 pentref gan gynnwys ailgoedwigo, diogelwch bwyd ac addysg amgylcheddol. Bydd y prosiectau hyn yn gwarchod cynefinoedd bywyd gwyllt prin ac yn galluogi cymunedau lleol o’u cwmpas i ddatblygu bywoliaeth mewn amaeth, garddwriaeth a gofal anifeiliaid ar yr un pryd, ochr yn ochr â’r coedwigoedd.
Ar arfordir gorllewinol pellaf Madagascar rydym ni’n cefnogi prosiect menywod sydd wedi sefydlu eu meithrinfeydd coed eu hunain ac sydd wedi plannu dros 50,000 o goed er mwyn creu coetiroedd newydd cynaliadwy ar gyfer y bywyd gwyllt ac ar gyfer eu hanghenion domestig hwy eu hunain.

Y mae David Attenborough wedi cydnabod ein gwaith angenrheidiol ni wrth ymestyn y coedwigoedd glaw cynhenid dwyreiniol unigryw sydd yn Andasibe. Drwy blannu coridorau bywyd gwyllt o goedydd brodorol rydym ni’n galluogi’r goedwig i adfywio a bywyd gwyllt sydd wedi’u hynysu i ddod o hyd i bartneriaid newydd i gymharu â hwy. Rydym ni wrthi ar hyn o bryd yn plannu 10,000 o goed y flwyddyn. Fe hoffem ni gynyddu’r gyfradd flynyddol hon.

 

L – Bywoliaeth (Livelihoods):

Y mae un prosiect yn nwyrain Madagascar sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch bwyd a chadwraeth mewn 100 o bentrefi o gwmpas Gwarchodfa Betampona. Galluogwyd miloedd o ffermwyr mewn ardaloedd amgylcheddol bwysig i gychwyn a rheoli eu ffermydd bychain eu hunain sy’n tyfu ffrwythau a llysiau ac i redeg stondin farchnad broffidiol ar gyfer eu cynnyrch. Ar ôl 3 blynedd o gefnogaeth mae sampl o 40 cartref wedi cynyddu eu hincwm o 50% ar gyfartaledd, gan alluogi eu teuluoedd i wella safon maeth, i anfon eu plant i’r ysgol ac i dalu am driniaeth feddygol.

Y mae menywod ifanc diymgeledd ac agored i niwed yn cael hyfforddiant galwedigaethol mewn 4 canolfan a gefnogir gan MfM. Ar ôl 2 flynedd o hyfforddiant maent yn derbyn cymhwyster a chymorth wrth gychwyn eu busnesau bach eu hunain. Ar yr arfordir dwyreiniol, mae ein partner ni wedi datblygu prosiect llwyddiannus sy’n galluogi pobl sydd heb dir i dyfu bwyd er mwyn ei fwyta ac i’w werthu. Gan ddefnyddio cynhwyswyr wedi’u hailgylchu a chompost mwydod defnyddir hyd yn oed y cilcyn lleiaf o dir neu sil ffenest i dyfu planhigion maethlon a rhai at ddefnydd meddygol. Mae’r prosiect hwn wedi’i ymestyn nawr i wella maeth a sgiliau bywyd pobl ifanc yng ngharchar Toamasina.

 

S – Carthffosiaeth (Sanitation):

Y mae carthffosiaeth wael yn gyfrannydd mawr at y gyfradd farwolaeth uchel i fabanod ym Madagascar. Y mae presenoldeb yn yr ysgol a lefelau cyflawniad hefyd yn cael eu heffeithio gan salwch o ganlyniad i systemau carthffosiaeth gwael. Gwnaeth MfM bolisi i sicrhau bod yna gyfleusterau toiled digonol ymhob un o’r ysgolion yr ydym ni’n gweithio gyda hwy. Yn y blynyddoedd diweddar rydym ni wedi gosod blociau o dai bach pydew gwell mewn 14 ysgol. Ers gosod y tai bach a’r dŵr rydym ni wedi bod yn monitro cyfraddau presenoldeb ysgol er mwyn dilyn trywydd y gwelliant sydd yn iechyd ein myfyrwyr.

Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial
Instagram