Ym Madagascar mae plant yn breuddwydio am y cyfle i dderbyn addysg ond i’r rhan fwyaf, y mae’r anawsterau’n rhy fawr. Y mae ysgolion gwledig anghysbell yn brin o bob dim, o ystafelloedd dosbarth, dŵr a thai bach i athrawon a llyfrau. Yn aml mae’r plant yn rhy llwglyd neu sâl i astudio a braidd y gall rhieni fforddio’r ffioedd.
Mae MfM yn gobeithio dod â gobaith a ffyniant i blant anghofiedig Madagascar drwy raglen integreiddedig ar gyfer ysgolion cynradd gwledig. Mae Education for Life (Ed4life) yn gweithio gyda chymunedau i ddarparu: ystafelloedd dosbarth newydd, dŵr glân a thoiledau, llyfrau, hyfforddiant athrawon, addysg amgylcheddol, ffreuturau ysgol, pŵer solar, llythrennedd i oedolion ynghyd â chyfleoedd i greu incwm ar gyfer rhieni.
Pam Education for Life?
Mae dros 30 mlynedd o weithio gyda sefydliadau ar lawr gwlad wedi argyhoeddi MfM fod mynediad at addysg dda yn hanfodol os yw Madagascar i wneud y daith allan o dlodi at ffyniant. Y mae degawdau o dan-fuddsoddiad a waethygwyd gan ansefydlogrwydd gwleidyddol diweddar wedi gadael y wlad yn analluog i ddarparu’r addysg fwyaf sylfaenol hyd yn oed. Gydag aelwydydd yn dod yn dlotach (mae 80% o’r boblogaeth yn byw ar lai na $1 y diwrnod) a bwyd yn dod yn ganran gynyddol o’u gwariant, mae cofrestru ar gyfer ysgol wedi gostwng yn arwyddocaol, gan syrthio i cyn ised â 55% mewn rhai ardaloedd. O bob 100 sy’n cychwyn mewn ysgol gynradd dim ond 33 sy’n cyrraedd ysgol uwchradd.
Mae ymchwil yn dangos hyd yn ped gydag isadeiledd yn ei le, y pum prif rhwystr sy’n atal myfyrwyr Malagasi rhag llwyddo yn yr ysgol yw:
-
-
Absenoldeb o’r ysgol oherwydd salwch;
-
Methu talu ffioedd ysgol;
-
Dysgu gwael gan athrawon heb sgiliau a heb ysgogiad;
-
Diffyg deunyddiau ac adnoddau dysgu;
-
Newyn a’r anallu i fedru canolbwyntio a dysgu ddaw yn sgil hynny.
-
Pwy mae Ed4life yn eu helpu?
Mae Ed4life yn helpu plant mewn cymunedau cefn gwlad anghysbell iddynt gael mynediad at addysg sy’n medru newid eu bywydau.
Bob blwyddyn, mewn partneriaeth â Sefydliad Adsum, rydym ni’n bwriadu cychwyn derbyniad newydd o 10 ysgol. Bydd pob Cam o raglen ‘Education for Life’ MfM yn cefnogi ar gyfartaledd:
2,000 o blant,
50 athro,
1,500 o rieni.
Mae gan MfM oddeutu 4 Cam yn rhedeg ar unrhyw un adeg, sy’n elwa 14,200 o bobl yn uniongyrchol.
Mae’r ysgolion wedi’u lleoli’n glystyrau yn ardaloedd Itasy, Miarinarivo ac Analamanga gan mwyaf, gyda rhai ysgolion ychwanegol sy’n cael eu cefnogi yn y dwyrain, y gorllewin a’r de. Gellir gweld lleoliadau’r ysgolion presennol ar fap y wefan. website map.
Sut mae Ed4life yn gweithio?
Lle bo’r angen, mae ysgolion sy’n cymryd rhan yn derbyn cefnogaeth i gryfhau eu darpariaethau sylfaenol megis ystafelloedd dosbarth, tai bach a mynediad at ddŵr glân. Yna, darperir y rhaglen integreiddedig ganlynol i gryfhau iechyd a dysgu i bawb yn yr ysgol:
-
-
Hyfforddir athrawon mewn dulliau pedagogaidd sylfaenol;
-
Sefydlir llyfrgell ysgol ag adnoddau ymhob ysgol – gan gynnwys gwerslyfrau a chynorthwyon dysgu;
-
Sefydlir gardd gegin ymhob ysgol er mwyn darparu bwyd maethlon ar gyfer ffreuturau ysgol newydd;
-
Sefydlir ffreutur ymhob ysgol sy’n cynnig bwyd maethlon i’r disgyblion;
-
Hyfforddir myfyrwyr, rhieni ac athrawon mewn dulliau cynhyrchu bwyd organig fel buddsoddiad hirdymor o ran maeth a ffynhonnell bosibl o incwm ychwanegol;
-
Sefydlir unedau compostio mwydod ymhob ysgol er mwyn gwella ansawdd y pridd a darparu modd o gynhyrchu incwm i’r ysgol;
-
Darperir cyfleoedd hyfforddi ar gyfer rhieni i’w dysgu i helpu wynebu her talu am gostau ysgol;
-
Darperir gwell cyfleusterau carthffosiaeth a hyfforddiant hylendid da er mwyn osgoi absenoldeb oherwydd salwch gastro-berfeddol.
-
Lle bo’n briodol, darperir citiau solar a chyfleusterau dysgu clyweledol.
-
Caiff y rhaglen ei rhedeg gan MfM mewn partneriaeth gyda staff, rhieni a myfyrwyr yr ysgolion, gyda chefnogaeth lawn awdurdodau lleol a rhanbarthol ac asiantaethau eraill.
Beth yw manteision Ed4llife?
Dylai cymunedau sy’n rhan o’r rhaglen gael mantais o fodolaeth yr ysgolion lleol sy’n medru darparu amgylchedd dysgu diogel a glân, ble gall plant y pentref gael mynediad at addysg dda gan athrawon hyfforddedig a brwd. Mae cwricwlwm gwell ynghyd ag arferion addysgu ac adnoddau addysgiadol gwell yn galluogi ysgolion i greu plant sydd wedi’u haddysgu’n well, plant sy’n medru parhau at addysg bellach a hyfforddiant – yn y pen draw, gallant ddewis i fwydo a chynnal eu hunain naill ai drwy arferion amaethyddol cynaliadwy neu drwy gael cyflogaeth arall y tu hwnt i’w cymuned.
Mae pob ysgol yn derbyn cefnogaeth am 3-4 o flynyddoedd. Ar ddiwedd y cyfnod nawdd, rydym ni’n disgwyl fod y canlyniadau canlynol wedi’u cyflawni:
-
-
-
Gwellhad arwyddocaol yn ansawdd yr addysgu.
-
Cynnydd yn incwm y rhieni a’r gallu dilynol i fedru fforddio talu ffioedd ysgol a chostau ysgol eraill.
-
Cynnydd cysylltiedig yn y raddfa presenoldeb a gostyngiad yn y raddfa gadael.
-
-
Gwell maeth oherwydd eu bod wedi bwyta cynnyrch gardd yr ysgol.
-
Gwell maeth yn cyfrannu at well presenoldeb a pherfformiad y disgyblion.
-
Gostyngiad mewn absenoldeb oherwydd salwch, ac o ganlyniad i ddysgu a mewnoli’r negeseuon hylendid WASH.
-
Cynnydd arwyddocaol yng nghyrhaeddiad y disgyblion.
-