Ein dull o weithredu yw cefnogi pobl Madagascar er mwyn iddynt ddod o hyd i’w hatebion eu hunain ac i newid eu cymunedau eu hunain. Dydyn ni ddim yn elusen fawr ac felly mae’n bwysig fod y cyllid sydd gennym yn cael ei wario’n ddoeth. Rydym ni’n rhoi grantiau’n uniongyrchol i rwydwaith sefydledig o bartneriaid datblygu. Mae’r bobl ysbrydoledig hyn yn arwain sefydliadau o bob cwr o gymdeithas sifil gan gynnwys grwpiau addysgiadol, grwpiau cymunedol, a grwpiau ffydd.
Dyma rai o’r pethau a ddywedwyd gan rai o’r grwpiau am eu profiad o weithio gyda Money for Madagascar:
“Fe grëwyd cymaint o argraff arnom gan gryfder yr ymrwymiad hirdymor sydd gan Money for Madagascar tuag atom. Teithiodd eu cydlynydd nhw 600km mewn car dim ond er mwyn ymweld â’n prosiect ni – am ddewrder a brwdfrydedd!”
Mr Jean Pierre, Head of SAF Development Agency, Maintirano.
“Gweithiodd fy sefydliad i mewn partneriaeth â Money for Madagascar ers 1991. Maent wedi ariannu nifer o brosiectau hanfodol: prosiectau sy’n creu incwm ar gyfer cymunedau anghysbell, mentrau i helpu carcharorion, cyllido addysg gynradd a rhaglenni hyfforddi galwedigaethol.”
Mme Charnette, Director FATOAM, Tamatave
“Mae Tîm WtdM a ffermwyr sy’n fuddiolwyr, yn enwedig yn Rhanbarth Analamanga, wedi dysgu nifer o bethau o ran strategaeth ar gyfer atebion lleol drwy gefnogaeth Money for Madagascar.
– Hyd yn oed gyda symiau bychain o gefnogaeth fe gawn ni gyfle i wneud pethau da ynghylch gwytnwch o ran Bywoliaeth, Dŵr ac Argyfwng.
– Gyda’n gilydd, gallwn oresgyn tlodi ym Madagascar
– Ac yn hwyrach, fe allwn ddweud “mae’r cyfan yn ymddangos yn amhosib hyd nes y mae’n cael ei wneud.”
Mr Solo RALISAONA, Coordinator of NGO WtdM, Antananarivo