Coleg Diwinyddol Ivato: Addysg Amgylcheddol
… ces fy ysbrydoli i warchod yr amgylchedd, i blannu coed ffrwythau yn arbennig.’
Ers dyddiau’r cenhadon cyntaf yn sefydlu ysgolion ar yr ynys, rhoddir pwyslais mawr ym Madagascar ar addysg fel y ffordd i ddianc o dlodi. Mae gan FJKM (Fiangonan’i Jesoa Kristy eto Madagasikara) sef Eglwys Iesu Grist ym Madagascar, nifer o ysgolion, coleg hyfforddi athrawon a cholegau sy’n hyfforddi bechgyn a merched ar gyfer y weinidogaeth.
Yn ogystal ag astudio’r Beibl a Diwinyddiaeth, mae’r myfyrwyr diwinyddol yn derbyn hyfforddiant ymarferol e.e. cymorth cyntaf, gofal iechyd sylfaenol, gwybodaeth o’r gyfraith ayyb. Yn aml bydd yn rhaid i weinidog, yn arbennig yn y cymunedau diarffordd, fod yn dipyn o bopeth! Yn hyn o beth, datblygiad cyffrous diweddar yw addysg amgylcheddol yng Ngholeg Diwinyddol Ivato, yn un o faestrefi’r brifddinas. Mae’n costio tua £33,500 y flwyddyn i redeg y coleg.
Mae’r Rhaglen Addysg Amgylcheddol yn dod o dan Adran Datblygiad FJKM, ond gweledigaeth Juliette Narijaona, cyfarwyddwraig y coleg, sydd y tu ôl i’r cwrs arloesol yn Ivato. Eglurodd ychydig o’i chefndir, ‘Bues i’n ddigon ffodus i gael astudio yn Nhaiwan, ac fe’m hysbrydolwyd gan yr hyn oedd yn digwydd yno i warchod yr amgylchedd, yn arbennig plannu coed ffrwythau. Roeddwn yn benderfynol o wneud rhywbeth tebyg ym Madagascar.’
Daw’r darpar-weinidogion, a’u teuluoedd, i’r coleg ar gyfer eu blwyddyn olaf. Mae tua 50 ohonynt yno ar hyn o bryd. Mae gan y coleg erddi llysiau, perllan ffrwythau eang a phlanhigfa. Ceir hefyd ardd goed palmwydd sy’n cynnwys nifer o rywogaethau sydd o dan fygythiad.
Neilltuir un bore’r wythnos i addysg ymarferol yn y blanhigfa. Caiff y myfyrwyr eu dysgu sut i drin y tir gan ddefnyddio gwrtaith naturiol a’r abwydfa, hefyd sut i hau a gofalu am y planhigion drwy adegau gwahanol y tyfiant. Rhoddir hyfforddiant hefyd yn y dechneg o drawsblannu ac impio. Mae’n debyg fod dros 20 o fathau gwahanol o goed mango wedi eu himpio yn tyfu yn y berllan!
Mae’r coleg yn tyfu ei lysiau ei hun ac yn hunangynhaliol, a’r nod tymor hir yw tyfu digon o lysiau i’w gwerthu a chael cyllid ychwanegol i’r coleg. Disgwylir i’r myfyrwyr weithio yn yr ardd lysiau bob dydd, ac ar adeg y cynhaeaf daw pob teulu i helpu, ac maent yn cael mynd â’r hyn sydd ei angen arnynt. Yn ôl Juliette fe wneir hyn o dan lygaid barcud y prif-arddwr sy’n gwylio nad oes neb yn cymryd gormod!
Unwaith yr wythnos maent yn gweithio yn y berllan, sy’n cynnwys coed ffrwythau o bob math e.e. afal, gwafa, mango, afocado, oren ac eirin gwlanog. Maent hefyd yn arbrofi trwy dyfu ffrwythau sydd ddim yn gynhenid i’r wlad fel leim, lemwn, grawnwin, mwyar duon, llus, ciwi a canistel. Ar ôl cael digon at ddefnydd y coleg caiff unrhyw ffrwyth dros ben ei werthu.
Bob mis Chwefror, yn ystod y tymor glaw, cynhelir Diwrnod Gwyrdd y Coleg, pan fydd pawb o’r coleg ynghyd â gwirfoddolwyr eraill yn trin y tir a phlannu hadau a phlanhigion newydd. Anfonwyd nifer o’r coed ifanc yn y blanhigfa i Ganolfan Coed Ffrwythau a sefydlwyd yn ddiweddar gan FJKM yn nhref Mahatsinjo, i’r gogledd o’r brifddinas. Plannwyd 270 o goed yno, gyda chymorth yr eglwys leol, ar safle sy’n ymestyn dros 30 acer, a’r cynllun tymor hir yw plannu pedair mil o goed. Fe fydd y ganolfan yn gallu darparu coed ffrwythau o’r ansawdd orau i bob rhan o’r ynys.
Ystyrir y ganolfan yn ychwanegiad gwerthfawr i waith y coleg, gyda’r myfyrwyr yn mynd yno i weithio a dysgu mwy. Bydd ar agor hefyd i ymwelwyr, ac yn cynnig hyfforddiant ar sut i ofalu am goed. Mae gan FJKM gynlluniau i ddod ag aelodau eu heglwysi yno, ynghyd â disgyblion ac athrawon yr ysgolion sydd ganddynt. Mae meithrin ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith eu pobl yn allweddol i gynlluniau FJKM, ac eisoes mae nifer o oruchwylwyr rhanbarthol yr ysgolion wedi dechrau cael eu hyfforddi, ac mae athrawon newydd mewn 35 o ysgolion yn rhan o raglen brawf.
Ar derfyn eu cyfnod yng Ngholeg Ivato caiff pob un o’r myfyrwyr ddewis 10 o goed a phlanhigion ifanc i fynd gyda hwy i’w plannu lle bynnag y byddan nhw’n gweinidogaethu. Maent yn ffynhonnell incwm i’r gweinidog newydd, ac yn ysbrydoliaeth i aelodau’r eglwysi i wneud rhywbeth tebyg hefyd ac i ddysgu o’i harbenigedd hwy.
Gweledigaeth, brwdfrydedd ac arweiniad Juliette sy’n gyfrifol bod y coleg yn torri tir newydd ym maes addysg ddiwinyddol ym Madagascar, ac mae ganddi gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol e.e. mwy o weithwyr ar y prosiect, rhagor o offer ffermio ac ehangu’r blanhigfa. Ond mae angen cyllid ychwanegol i wneud hynny.
Ivato Theological College will receive a grant of approx. £30k from the appeal. To find out more about how this will be spent click here {to follow}