Plant anghenus
Bob blwyddyn mae mwy na 1,000 o blant y stryd yn derbyn bwyd, addysg a gofal meddygol mewn canolfannau galw mewn sy’n cael eu noddi gan Money for Madagascar yn y brifddinas, tra bod tua 200 o blant anghenus bob blwyddyn yn cael lle diogel i fyw. Y mae’r 95 ystafell ddosbarth yr ydym ni wedi’u hadeiladu ers 2004 yn cael eu defnyddio i addysgu mwy na 4,000 o blant mewn mannau gwahanol ym Madagascar.
Menywod a merched sy’n agored i niwed
Rydym ni’n noddi hyfforddiant galwedigaethol ar gyfer menywod tlawd ac yn cefnogi ffurfio cwmnïau cydweithredol sy’n creu incwm fydd yn eu tro yn galluogi menywod Malagasaidd i gynnal eu hunain. Mewn mannau eraill mae ein harian ni’n cefnogi prosiectau sy’n helpu mamau sengl, arddegwyr gofidus a thrwblus a’r rhai sydd wedi dioddef o drais domestig.
Pobl ifanc ag anableddau
Nid yw gwladwriaeth Madagascar yn cynnig nemor ddim cymorth ar gyfer y bobl ifanc ag anabledd. Y mae Money for Madagascar yn noddi addysg arbenigol yn ein canolfannau ar gyfer y plant a’r bobl ifanc hynny a fyddai’n treulio’u hieuenctid yn gaeth i’w cartrefi ac a fyddai’n cael eu hamddifadu o gyfeillgarwch neu addysg.
Teuluoedd yn dianc rhag tlodi
Rydym ni’n ymrwymedig i helpu teuluoedd anghenus i ddianc rhag maglau tlodi drwy noddi hyfforddiant galwedigaethol a chynnig grantiau cychwyn busnes sy’n galluogi pobl gyffredin i gychwyn busnesau bychain. Y mae cynlluniau fel hyn yn cael eu noddi mewn ardaloedd trefol a gwledig a hefyd mewn rhanbarthau a drawyd gan seiclonau er mwyn galluogi adfywiad cymunedol.
Cymunedau mewn ardaloedd amgylcheddol bwysig
Rydym ni’n noddi prosiectau, gan gynnwys ailgoedwigo, diogelwch bwyd ac addysg amgylcheddol mewn mwy na 100 o bentrefi. Mae’r prosiectau hyn wedi’u cynllunio i warchod cynefinoedd a chefnogi’r cymunedau o’u cwmpas. Rydym ni hefyd yn noddi creu ffynhonnau, toiledau, ysgolion a chynlluniau cynhyrchu incwm.