Mae MfM yn credu mai’r allwedd i newid parhaol yw grymuso pobl Madagascar ac i annog eu dyfeisgarwch a’u talentau. Caiff ein prosiectau eu llunio a’u rheoli gan sefydliadau partner ym Madagascar y mae gennym ni berthynas barhaol â hwy. Rydym ni’n gweithio gyda’r partneriaid hyn, yn darparu nawdd ac yn monitro’r canlyniadau..
Rydym ni’n cadw’r costau’n isel er mwyn sicrhau bod y mwyafswm o’n hincwm yn mynd yn uniongyrchol at y prosiectau ym Madagascar..
Rydym ni’n hyrwyddo technoleg gynaliadwy, technegau amaeth cynaliadwy a defnydd cynaliadwy o adnoddau.
Mae ein sefydliadau partner ni’n gweithio mewn un neu fwy o’r ardaloedd craidd canlynol.
Yn achlysurol bydd yn rhaid i ni weithio gyda sefydliad partner yn dilyn argyfwng er mwyn mynd i’r afael â