Mae Arian i Fadagascar a phobl Madagascar wedi dangos y gall datblygu cynaliadwy greu dyfodol gwell i’r ynys, mewn prosiect sy’n grymuso cymunedau i warchod eu hamgylchedd a gwella eu hincwm a’u safonau byw yr un pryd.
Mae ein cynllun Grymuso Cymunedau ar Gyfer Cadwraeth a Bywoliaethau ym Madagascar (GCGCBM), gyda chefnogaeth y Critical Ecosystem Partnership Fund (CEPF), wedi llwyddo i helpu miloedd o bobl Madagascar i wella eu hincwm, a’u rheolaeth tros hynny, gan warchod a hyrwyddo’r amgylchedd unigryw, hanfodol, lle maen nhw’n byw.
Rhwng Gorffennaf 2023 a Rhagfyr 2024, bu ein prosiect yn gweithio gyda chymunedau mewn tair Ardal Bioamrywiaeth Allweddol ym Madagascar: Glannau Afon Onilahy a Chlwstwr Delta Llyn Ihotry-Mangoky yn y De-orllewin, a Tsinjoarivo yn Ucheldiroedd Madagascar.
Mae Ardaloedd Bioamrywiaeth Allweddol yn cynnwys rhywfaint neu’r cyfan o’r rhain: bioamrywiaeth sydd mewn peryg, bioamrywiaeth sy’n gyfyng o ran daearyddiaeth, bioamrywiaeth sydd o bwys ecolegol eithriadol, prosesau bywydegol anarferol, neu blanhigion a chreaduriaid sydd heb eu tebyg.
Mae’r tair ardal yn gartref i fywyd gwyllt a phlanhigion sydd wedi eu bygwth, a llawer o’r rheiny’n unigryw i’w rhanbarth, gan gynnwys coedwig bigog Onilahy, lle mae 53% o rywogaethau ac wyth genws llawn yn endemig. Mae hynny’n wir hefyd am lawer o lemwriaid, crwbanod ac adar.
Mae Clwstwr Delta Llyn Ihotry-Mangoky yn gartref i goedwig baobab a nifer o rywogaethau endemig o greaduriaid a phlanhigion, yn arbennig adar y dŵr, tra bod ardal Tsinjaorivo yn cynnwys o leia’ 11 rhywogaeth o brimatiaid, 17 rhywogaeth o tenrec (yr amrywiaeth mwya’ ym Madagascar o deulu sy’n unigryw i’r ynys), saith rhywogaeth o gnofilod (a phump o’r rheiny’n endemig), chwech anifail cigysol (a phedwar o’r rheiny’n endemig) ac o leia’ 247 rhywogaeth o blanhigion.
Yn ogystal â bod yna gyfrifoldeb arnon ni i gyd i warchod y rhyfeddodau amgylcheddol hyn, mae hefyd er budd pawb ar y blaned: mae coedwigoedd glaw Madagascar a mannau eraill yn rhan gwbl ganolog i’n hymdrechion a’n gobeithion i gyfyngu ar effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Ond mae pobl Madagascar, sydd trwy ddamwain eu man geni, wedi cael y cyfrifoldeb o ddiogelu’r adnodd ecolegol unigryw a hanfodol yma, hefyd yn wynebu heriau mawr. Mae tua 79.7% o bobl Madagascar yn byw ar yr isafswm tlodi byd-eang o £1.73 y dydd, neu lai.
Amaethyddiaeth yw 25% o Gynnyrch Cartref Crynswth (GDP) Madagascar, yn cyflogi 80% o’r bobl ac yn cyfri’ am 80% o asedau’r wlad: mae’n hawdd deall pam ei bod yn demtasiwn i lawer o bobl Falagasaidd glirio rhannau o’r coedwigoedd glaw er mwyn cael tir ychwanegol ffrwythlon i’w ffermio.
Yn Arian i Fadagascar, gwyddom nad oes raid cael gwrthdaro na chroesddweud rhwng datblygu, gwella bywoliaethau a safonau byw, gwella addysg, iechyd a deiet, cael dŵr glân, lloches a dillad, ar un llaw, a gwarchod a hyrwyddo’r amgylchedd naturiol, ar y llall.
Fel y rhan fwya’ o’n rhaglenni, mae ein cynllun GCGCBM yn cydnabod y gall datblygu a’r amgylchedd fynd law yn llaw ac mai pobl Madagascar sy’n gwybod orau beth sydd arnyn nhw ei angen i wella eu safonau byw, a sut i wneud hynny.
Gyda chymorth gan CEPF, rydym wedi creu cronfa ariannol ar gyfer pobl Falagasaidd, gan gynnwys menywod, grwpau lleiafrifol bregus a phobl ifanc i sefydlu a gweithredu prosiectau sy’n gwarchod coedwigoedd glaw unigryw a hanfodol Madagascar ac yn cynnyddu incwm a gwytnwch yn wyneb newid hinsawdd.
Rydym wedi llwyddo i helpu cymunedau Malagasaidd i greu a gweithredu 19 VOI Communautés Locales de Base/Cymunedau Lleol Llawr Gwlad (COBA), a phob un yn cynnwys tua 350 o aelodau. Cawson nhw eu rhannu yn 93 Cymdeithas Gynilion a Benthyciadau Pentref neu Grwpiau Cynilo Cymunedol.
Ymhlith gwasanaethau eraill, roedd y cyrff cymunedol hyn yn darparu benthyciadau a grantiau i alluogi pobl i wella eu technegau ffermio, i hyfforddi mewn sgiliau newydd a phrynu offer a hadau.
Roedden nhw’n sicrhau bod yr holl aelodau yn clywed ceisiadau ac yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â benthyciadau ar gyfer gweithgareddau arfaethedig, gan gynnig cefnogaeth a chyngor ariannol i’r holl aelodau wrth iddyn nhw ddatblygu a gweithredu eu prosiectau a’u helpu i roi strwythur arnyn nhw ynghyd ag ystyried elfennau ychwanegol a allai gyfrannu at eu llwyddiant.
Roedd ein gwaith yn galluogi a chefnogi pobl Falagasaidd i gynnal eu gweithgareddau coedwigaeth eu hunain, gan gynnwys agro-goedwigaeth, gwella lefelau cynnyrch a chynaliadwyedd amethyddol, adfer cynefinoedd diraddiedig – gan gynnwys pridd a ddifrodwyd a’i golli oherwydd digwyddiadau tywydd anarferol yn sgil newid hinsawdd – a hyfforddi arweinwyr ifanc i ddarparu gwasanaethau coedwigaeth cefnogol.
Roedd y cynllun yn enghraifft o fodel pwerus y gall eraill ei ddilyn, gan gyfuno ymbweru cymunedol, gwytnwch economaidd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Roedd yn darparu:
- Arweinyddiaeth Ieuenctid ym maes Datblygu – llwyddon ni i hyfforddi 75 o arweinwyr ifanc, a 42 ohonyn nhw’n fenywod, i ddarparu arweiniad agro-ecolegol, i wella llywodraethiant a bywoliaethau lleol.
- Cynilion Cymunedol ar gyfer Sefydlogrwydd – 93 grŵp cynilo, gyda 2,488 aelod, a 60% ohonyn nhw’n fenywod, a’r rheiny’n cryfhau gwytnwch ariannol a chyllido cadwraeth.
- Ffermio Cynaliadwy ar gyfer Gwytnwch Hinsawdd – roedd 77% o’r tylwythau a fu’n cymryd rhan wedi o leia’ dreblu eu cynnyrch amaethyddol, wedi cynyddu incwm o 47% a lleihau costau ffermio o ddau-draean.
- Llywodraethiant Lleol Cryfach – mae gwella prosesau penderfynu, cyfathrebu a chyfranogi o fewn grwbiau COBA/VOI wedi arwain at well rheolaeth ar adnoddau naturiol.
- Cadwraeth ar Waith – mae rhagor o gyfranogi cymunedol a sefydlogrwydd ariannol wedi arwain at ailgoedwigo a gwell trefn o batrolau i ddiogelu coedwigoedd.
Meddai Christiane Randrianarisoa, Rheolwr Rhaglenni Arian i Fadagascar a’r Ysgogydd Rhwydweithio ac Adnoddau ar gyfer y rhaglen Coedwigoedd Gwydn a Bywoliaethau:
‘Mae’r prosiect wedi tanlinellu grym perchnogaeth leol, gan ddangos bod newid yn effeithiol a pharhaol pan fydd cymunedau, yn enwedig pobl ifanc, yn arwain.
‘Mae cysylltu anogaeth economaidd gyda chadwraeth yn helpu i ysgogi cymunedau i warchod eu hamgylchedd. Tra bod heriau tefniadaeth mewn ardaloedd anghysbell wedi gofyn am addasu dulliau, mae llwyddiant y prosiect yn cynnig model i’w ddynwared mewn rhanbarthau eraill.
‘Mae wedi helpu creu cymunedau cryfach ac ecosystemau ffyniannus ac yn dangos sut y gall pobl Madagascar sicrhau gwir ddatblygu cynaliadwy.’