Bostiad Blynyddol Arian i Fadagascar (AiF) 2025
Lot ITP 13 Bis, Antsavatsava, Itaosy, Antananarivo, Madagascar, t. +261 38 35 259 98
Halton Mill Cooperative, Mill Lane, Halton, Lancaster, LA2 6ND, UK. t. +44(0) 7956147316
admin@moneyformadagascar.org

Malagasy Accord de Siège No. 24/035-AE/SG/DGPDD/DPPD/SONGE-MF
UK Registered Charity No. 1001420
Noddwyr
Lord Anderson of Swansea, Hilary Bradt MBE, Dr Lee Durrell MBE, Barbara & Allan Prys-Williams,
rhagfyr 2025
Annwyl Gyfeillion,
Croeso i Bostiad Blynyddol Arian i Fadagascar (AiF) 2025.
Y postiad yw’r cyfle i ni edrych gydag un llygad ar y gorffennol ac un ar y dyfodol, wedi ein hysbrydoli gan y ddihareb Falagasaidd – ‘Ataovy dian-tana: jerena ny aloha, todihana ny afara.’; ‘byddwch fel y camelion – edrychwch ymlaen a gwyliwch y tu ôl’.
Ac eleni, mae’r dywediad yn arbennig o addas.
Gwelodd y 12 mis diwethaf newidiadau rhyngwladol anferth sy’n effeithio ar bobl, gan gynnwys y cymunedau Malagasi yr ydym yn cydweithio â nhw. Mae hefyd ddatblygiadau – ar droed o hyd – o fewn Arian i Fadagascar er mwyn parhau’n ystwyth a hyrwyddo ein hegwyddorion sylfaenol: cael ein harwain gan anghenion a chreadigrwydd y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae 2026 hefyd yn garreg filltir i AiF – ein pen-blwydd yn 40 oed.
Yn y cyd-destun hwn, mae’n bleser cyflwyno ein Hadroddiad Blynyddol, cylchlythyr newyddion o ganolfannau plant Akany Avoko Ambohidratrimo a Bevalala, gwybodaeth am ein hymgyrch Rhoi Mawr tros blant Malagasi, gwybodaeth am ein calendr – sydd eleni’n nodi ein 40fed pen-blwydd, gyda straeon am ddycnwch a thrawsnewid a gwerth partneriaethau wrth wneud i hyn oll ddigwydd – a gwybodaeth am ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn arbennig hon.
Yn 1986 y dechreuon ni, pan gamodd ffrindiau Malagasi ein sylfaenydd, Barbara Prys-Williams, i’r bwlch i ymateb i drychinebau naturiol a’r argyfwng economaidd a drawodd Madagascar. Fe droeson nhw at Barbara i weld a allai hi godi arian i gefnogi eu syniadau a, gyda chymorth ei gŵr, Allan, a Chwrdd Crynwyr Abertawe, gwnaeth hynny. Yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, rydym wedi cael ein harwain gan yr ethos yna ac wedi gweithio i’w gynnal. Rydym yn gweithio gyda mudiadau a chymunedau Malagasi i gynnnig cymorth ac i’w cefnogi nhw i’w hatgyfnerthu eu hunain. Rydym yn bod i ddatgloi potensial Madagascar i gynnig atebion Malagasi i heriau Malagasi.
Rydym yn llawn cyffro i ddathlu ein pen-blwydd gyda chi i gyd, ein cefnogwyr, partneriaid a chymunedau ym Madagascar a’r Deyrnas Unedig. Mae 40 mlynedd o gydweithio cryf yn gofyn am gyndabyddiaeth hael o’ch ffydd ddi-ildio yn ein gwaith gyda’n gilydd a pham ei fod o bwys. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am gael rhannu’r fath angerdd ac ymrwymiad i Fadagascar. Rydym yn siŵr y bydd ein brawddeg ddathlu, a ddiffiniwyd gyda’n partneriaid, yn ddisgrifiad da o’n hawydd i fyw gwerthoedd cydweithio a phartneriaeth. ‘Ny hazo tokana tsy mba ala, ny firaisakina no hery’ : ‘Un goeden nid yw’n goedwig, cryfach ynghyd.’ (neu, mewn fersiwn byrrach: ‘Ny firaisakina no hery’ : ‘Cryfach ynghyd.’)
Yn y pecyn yma, rydym wedi cynnwys gwybodaeth am yr hyn y byddwn yn ei wneud, a phryd, gan gynnwys cystadlaethau, digwyddiadau dathlu, prosiectau a chynlluniau cynyddu gallu a chreu partneriaethau. Gallwch weld mwy ar ein gwefan. Rhannwch y ddogfen os gwelwch yn dda – rhowch hi mewn man cyhoeddus, rhannwch hi gyda’ch ffrindiau, perthnasau, cydweithwyr a sefydliadau: mae croeso i bawb fod yn rhan o’r dathlu!
Wrth edrych yn ôl ar eleni, rydym yn falch o’n llwyddiannau gyda’n gilydd ac yn hynod ddiolchgar amdanyn nhw. Oherwydd eich cred barhaus yn ein nod, mae plant yn dysgu mewn ysgolion mwy hapus a mwy diogel, mae teuluoedd yn creu bywoliaeth well a chymunedau yn arwain wrth warchod amgylchedd gwerthfawr Madagascar.
Un esiampl yr ydym yn llawn cyffro yn ei chylch yw’r Ganolfan Fentora newydd yn Ambohidratrimo. Mae eisoes yn llawn pobl ifanc yn astudio, yn breuddwydio am eu dyfodol ac yn ennill sgiliau ar gyfer gwaith a bywyd. Ynni glân dibynadwy sy’n pweru’r holl adeilad, wedi ei ddarparu trwy gonsortiwm Solar United Madagascar, ble’r ydym yn gweithio gyda’n partneriaid, gan gryfhau ein hymrwymiad i warchod yr amgylchedd.
Ledled Madagascar, mae grwpiau lleol yn arwain y gwaith o drawsffurfio’u pentrefi. Trwy grwpiau cynilo a benthyca a ffermio amgylcheddol-ddoeth, mae mwy na 5,000 o bobl yn cynyddu eu hincwm wrth ofalu am y tir sy’n eu cynnal. Trwy gefnogi 20 ysgol mewn ardaloedd gwledig, rydym wedi’i gwneud yn haws i fwy na 8,000 o ddisgyblion, athrawon a rhieni gael addysg, llesiant a chyfleoedd – a hynny wrth barhau i gefnogi 560 o’r plant mwyaf bregus, sy’n dibynnu ar ganolfannau gofal am loches, maeth, iechyd a diogelwch.
Oherwydd eich teyrngarwch chi y cyflawnwyd pob cam – hyd yn oed mewn blwyddyn o ansicrwydd bydeang.
Parhau y mae’r ansicrwydd. Bydd toriadau anferth mewn cymorth gan wledydd ledled y byd yn gwneud bywyd yn galetach fyth i lawer o’r cymunedau yr ydym yn cydweitho â nhw. Mae disgwyl i Madagascar yn unig golli £95 miliwn o gefnogaeth erbyn 2026. Er nad ydym yn dibynnu’n llwyr ar gyllid llywodraeth, mae’r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu yn sicr yn dibynnu arno.
Ac, eto, mae gobaith. Rydym wrth ein bodd i sicrhau grant Cynllun Darwin llywodraeth y Deyrnas Unedig eleni. Bydd yn caniatáu i 800 ffermwr a’u teuluoedd greu bywoliaethau gwydn wrth ofalu am eu tir a’u hamgylchedd lleol. Rydym yn benderfynol fod pwysigrwydd bydeang Madagascar yn parhau i gael ei gydnabod a bod cymunedau Malagasi’n cael cefnogaeth i arwain y gwaith.
Fel erioed, mae rhagor i’w wneud. Ac, fel erioed, mae eich cefnogaeth yn allweddol. Gwyddom fod ar blant Madagascar angen iechyd, addysg ac, yn aml, ddiogelwch a chymorth gofal – mae ein rhaglen Plant at y Dyfodol yn helpu i sicrhau hyn.
Mae ein Canolfan Fentora’n esiampl o sut yr ydym yn helpu pobl ifanc i osod syfleini ar gyfer dyfodol llewyrchus a chymunedau cyfan i gyfeirio mentrau a thechnoleg i wella bywydau. Mae’r angen yno. Gyda’ch cefnogaeth chi, yn bartneriaid a chymunedau Malagasi, byddwn yn parhau i gwrdd ag ef.
Er i ni fynd i mewn i fyd newydd, rydym mewn gwell sefyllfa nag erioed i wneud rhynny. Gwelodd eleni newid mawr: mae Arian i Fadagascar, i raddau mwy fyth, yn dod yn gorff dan arweiniad Malagasiaid. Un uned fydeang ydym ni, yn gweithio o Fadagascar ac ynddi, gan ddwyn sgiliau ac arbenigedd bydeang i gefnogi a chryfhau arweinyddiaeth Falagasi.
Byddwch bellach yn deall pam eim bod wedi dewis Cryfach Ynghyd yn frawddeg pen-blwydd.
Diolch yn ddidwyll am barhau i gredu yn y gwaith hwn, ym mhotensial Madagascar ac ym mhob plentyn a theulu sy’n cael eu cyffwrdd gan eich caaredigrwydd.
Gyda chofion cynnes, ary misaotra anao indrindra izahay,



English
Malagasy
Français



