O 12pm ddydd Mawrth 22 Ebrill hyd 12 pm ddydd Mawrth 29 Ebrill eleni, rydym yn cynnal ein hymgyrch Rhoi Cyfatebol Gwyrdd gyda Big Give.
Bydd pob rhodd ariannol yn cael ei dyblu ac yn mynd at raglen sydd wrth galon ein bodolaeth a’n gwaith gyda phobl Madagascar – Coedwigoedd a Bywoliaethau Gwydn (CBG).
Mae ein rhaglen CBG yn dangos nad oes raid i ddatblygu – pobl yn gwella eu bywydau a’u bywoliaeth trwy gynyddu eu hincwm – wrthdaro gyda gwarchod ac (ail) dyfu’r amgylchedd yr ydym yn rhan ohono ac yn dibynnu arno, yn wir gall gyd-fynd â hynny a’i gryfhau.
Ac mae’n bwysig.
Pam fod angen CBG arnon ni?
Mae pobl Madagascar yn byw mewn biosffer gwirioneddol drawiadol a rhyfeddol ac maen nhw’n cyfrannu ato.
Dim ond ym Madagascar y mae tua 90% o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion yr yn ys i’w cael ac mae’n cynnwys 5% o holl rywogaethau creaduriaid a phlanhigion y byd.
Ond Madagascar yw’r pedwerydd man gwaetha’ yn y byd o ran dadgoewigo ac mae mwy na 600 o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid yno mewn peryg o ddifodiant.
Yn ogystal â bod yn annerbyniol oherwydd fod gan yr anifeiliaid a’r planhigion hynny gymaint o hawl i fodoli ag unrhyw berson, mae hefyd yn argyfwng gwirioneddol oherwydd ein bod i gyd – gan gynnwys pob person – yn dibynnu ar ein coedwigioedd i oroesi.
Mae pobl Madagascar yn wynebu heriau difrifol sy’n bygwth eu bodolaeth.
Mae poblogaeth Madagascar ymhlith y tlota’ yn y byd: mae 79.9% o’r Malagasiaid yn byw ar yr isafswm tlodi byd-eang o £1.73 y diwrnod neu o dan hynny. Mae 80% yn dibynnu’n llwyr ar amaethyddiaeth am eu hincwm a’u bodolaeth.
Er fod Madagascar yn un o ddim ond pedair gwlad sy’n cael eu cydnabod am dynnu mwy o garbon o’r amgylchedd nag y maen nhw’n ei ychwanegu, mae’r wlad yn diodde’ rhai o effeithiau gwaetha’r trychineb carbon hyd yn hyn, gan gynnwys sychder, llifogydd a cholled barhaol pridd ffrwythlon oherwydd glawogydd eithafol.
Y gwir sy’n wynebu mwyafrif pobl a phlant Madagascar yw fod prinder bwyd, newyn a’i effeithiau, gan gynnwys twf araf mewn 50% o blant oherwydd diffyg maeth, yn fwy na bygythiad; mae’n realiti. Mae’n hawdd deall pam eu bod yn ceisio gwella eu bywydau trwy dorri coedwigoedd er mwyn cael gafael ar ragor o dir a chynhyrchu rhagor o fwyd.
Dyna swyddogaeth CBG.
Beth yw cyfraniad CBG?
Mae ein rhaglen Coedwigoedd a Bywoliaethau Gwydn yn mynd i’r afael yn unongyrchol â’r ddwy broblem anferth yma, sy’n perthyn yn agos i’w gilydd – dadgoedwigo a difrod i’r amgylchedd, ar un llaw, ac angen pobl Madagascar i ddianc rhag prinder bwyd tlodi a’i effeithiau dychrynllyd.
Rydym yn gweithio gyda dynion, menywod a phlant Madagascar i gynnig hyfforddiant, technoleg, arbenigedd a chyllid i’w helpu i ddatblygu ac arwain cynlluniau arloesol i gynyddu lefelau cynnyrch bwyd ac incwm, gan godi eu hunain o dlodi ac i’r cyfforddusrwydd cymharol y maen nhw – fel pawb ohonon ni – yn ei haeddu.
Ac rydym yn eu helpu i weithredu i warchod, adfer ac ail-blannu coedwigoedd, gan greu swyddi a chynlluniau cymunedol i ddiogelu coedwigoedd, eu helpu i dyfu, a chroesawu a diogelu anifeiliaid a phlanhigion, gan roi cymorth iddyn nhw ddychwelyd i’w hen gynefinoedd.
Gan ddefnyddio agro-goedwigaeth, gwell technegau plannu a gwrteithio, ffyrdd arloesol o ofalu am blanhigion a’u defnyddio, a diogelu anifeiliaid a gwylltiroedd, rydym yn helpu pobl Madagascar i ddefnyddio eu syniadau, eu talentau a’u hymroddiad eu hunain i wella eu bywydau a’r amgylchedd lle maen nhw’n byw ac yr ydym oll yn dibynnu arno.
Rydym yn eu helpu i warchod planhigion ac anifeiliaid sydd oll mewn peryg mawr, gan gynnwys tenreciaid, lemwriaid, amffibiaid ac adar, trwy ehangu a gwarchod eu cartrefi yn y goedwig.
Mae CBG yn profi a chrisialu un gwirionedd sylfaenol: does dim rhaid cael gwrthdaro rhwng datblygu a’r amgylchedd. Gallwn helpu pobl Madagascar i wella eu bywydau a chyrraedd eu potensial ac, ar yr un pryd, i warchod a hyrwyddo’r ecosffer gwyllt, rhyfeddol o’u cwmpas.
Beth sydd ei angen arnon ni?
Rydym yn gosod targed o £30,000 ar gyfer Cronfa Gyfatebol Werdd Big Give, a fydd wedyn yn cael ei ddyblu gan ein cyllidwr pwysig Sefydliad Reed ac addewidion gan ddau gefnogwr. Mae hynny’n golygu y bydd pob £1 a rowch chi yn rhoi £2 i ni.
Byddwn yn defnyddio’r arian yna i:
£18,000 – Hyfforddia a chefnogi ffermwyr Madgascar i ddatblygu agro-goedwigaeth ar eu tir
£18,000 – Hyfforddi a chefnogi pobl Madagascar mewn amaethyddiaeth Amgylcheddol Ddoeth
£15,000 – Cynyddu gallu cymunedau i warchod ac adfer coedwigoedd a bioamrywiaeth lleol
£9,000 – Adfer tir sydd wedi dirywio ar gyfer defnydd amaethyddol cynaliadwy
Beth allwch chi ei wneud?
Yn ystod yr wythnosau nesa’, fel y byddech chi’n disgwyl, byddwn yn rhannu’r newyddion a’r manylion diweddara’ a negeseuon atgoffa.
O ystyried hynny, helpwch ni trwy:
gyfathrebu: rhannwch y dudalen hon ar y we, ein tudalen ymgyrchu, anfonwch e-byst yn eu blaen, ail-bostiwch a rhannwch negeseuon cyfryngau cymdeithasol. Rhowch wybod i bobl am yr ymgyrch a’i phwrpas
rhoi: mae’r ymgyrch Cronfa Gyfatebol Werdd yn agor am 12pm ddydd Mawrth, 22 Ebrill, 2025, ac yn cau am 12pm, ddydd Mawrth 29 Ebrill, 2025. Rhowch, a hoffi a rhannu negeseuon a physt y byddwn yn eu hanfon
Diolch yn fawr am ddarllen, a helpwch ni i greu’r llwyfan y maen pobl Madagascar ei angen i wella eu bywydau a’u hiechyd ac i warchod a hyrwyddo’r ecosystem wych ble maen nhw’n byw ac yr ydym oll yn ddibynnol arni.