Canolfan Breswyl i Ferched: Akany Avoko Faravohitra
‘Nid swydd yw hon. Dyma fy mywyd i!’
Canolfan breswyl i adfer ac ailhyfforddi merched ifanc yw Akany Avoko Faravohitra (AAF), gyda thua 50 o ferched yno ar hyn o bryd. Mae’r mwyafrif yn eu harddegau, rhai o dan 12 oed a rhai’n famau sengl. Gwraig o’r enw Hanta Randrianarimalala sy’n rhedeg AAF, gyda thîm o 9 aelod o staff a gwirfoddolwyr lleol a rhyngwladol. Fel arfer anfonir y merched i AAF am un o ddau reswm:
1. Cael eu harestio am fân droseddau sy’n deillio o’u sefyllfaoedd anobeithiol e.e. dwyn bwyd neu ddillad, puteindra neu gyffuriau. Daw pobl ifanc i’r brifddinas i chwilio am fywyd gwell. Ond does dim gwaith nac arian yno, ac fe’u gorfodir i fyw ar y stryd neu mewn slymiau. Mae’r merched sydd yn y ganolfan naill ai’n aros am wrandawiad llys a all gymryd hyd at flwyddyn, neu eisoes wedi eu dedfrydu. Cânt eu hanfon i’r ganolfan i’w hasesu, yn hytrach na mynd i garchar.
2. Wedi eu cam-drin neu wedi eu gadael gan eu teuluoedd, ac yn byw ar y stryd ers eu bod yn ifanc.
Beth bynnag y rhesymau, maen nhw’n fregus, wedi gorfod wynebu sefyllfaoedd peryglus a phrofi trawma a cholled. Fel dwedodd Hanta, ‘Ein gwaith ni yw gofalu amdanynt, eu haddysgu a’u hamddiffyn.’ Bydd Hanta’n eu hasesu er mwyn gweld beth yw eu hanghenion addysgiadol. Mae dros hanner y merched yn mynd i’r ysgol leol a’r gweddill yn cael eu dysgu yn y ganolfan. Dysgir iddynt hefyd sgiliau ymarferol fel brodwaith, gwnïo a gwneud dillad a sgiliau bod yn rhiant. Rhoddir pob cefnogaeth i’r merched i barhau eu haddysg neu hyfforddiant galwedigaethol wedi iddynt adael y ganolfan. Mae’r merched yn rhannu ystafelloedd cysgu ar y cyd, a hwy sy’n gyfrifol am e cadw’n ddestlus a glân. Eglurodd Hanta mai’r nod yw eu helpu i fod yn oedolion annibynnol fydd yn cyfrannu at fywyd eu cymunedau. Meddai: ‘Rwy am iddynt gael uchelgais a theimlo eu bod yn rhan o gymdeithas. Ond uwchlaw popeth, rwy am iddyn nhw fod yn hapus.’
Ar ddiwedd eu cyfnod yn y ganolfan mae’r merched yn gorfod mynd gerbron barnwr y llys plant. I’r mwyafrif y gobaith yw ymuno gyda’u teuluoedd eto a chael mynd adref. Mae paratoi ar gyfer hyn yn rhan allweddol o waith AAF. Ymdrechir i gysylltu â’r teuluoedd, a threfnir rhaglen o gyfarfodydd rhwng y ferch a’i theulu, wedi eu harolygu gan y staff. Mae Hanta’n paratoi adroddiad manwl i’r llys ar y ferch, gydag awgrymiadau ynglŷn â beth ddylai ddigwydd iddi. Meddai, ‘ Mewn 99% o achosion mae’r llys yn barod i dderbyn fy awgrym ac yn rhyddhau’r ferch heb gosb ychwanegol.’
Mae AAF yn helpu newid bywydau merched tlawd a bregus ym Madagascar, ac yn gwneud hynny ar gyllideb gyfyng iawn. Nid ydynt yn derbyn arian gan lywodraeth y wlad, nac o unrhyw sefydliad mewnol arall. Daw’r rhan fwyaf o’u harian gan unigolion, eglwysi a sefydliadau tramor, ac maen nhw’n dibynnu’n fawr ar y rhaglen nawdd sydd ganddynt. Cost rhedeg y ganolfan am fis yw 8.5 miliwn Ariary (£1,900), gyda gofal, bwyd ac addysg un ferch yn costio tua 130,000 Ariary (£30) bob mis.
Oherwydd prinder arian, dyfodol ansicr sy’n wynebu’r merched wrth ddechrau ar fywyd annibynnol. Byddai rhagor o gyllid yn caniatáu i AAF eu helpu hwy, a hefyd helpu merched eraill i osgoi carchar a thyfu i fod yn oedolion hapus, annibynnol sy’n gaffaeliad i’w cymunedau.
Mae Hanta’n creu argraff fawr, oherwydd ei gweledigaeth a’i hymroddiad i sicrhau lles y merched yn ei gofal. Mae’n amlwg eu bod hwythau’n meddwl y byd ohoni. Roedd y ganolfan mewn cyflwr enbyd a heb ddodrefn pan gymerodd hi drosodd, ond fe weithiodd yn galed i wneud yr adeilad yn lle gwerth byw ynddo, er bod dal angen gwneud gwaith sylweddol arno. Treuliodd Hanta flwyddyn mewn canolfan debyg i AAF pan oedd hi’n ei harddegau, felly mae’n deall anghenion y merched. Wedi hynny, cafodd gyfle i ddod i Ben-rhys yn y Rhondda am gyfnod, a bu hynny’n ddylanwad mawr arni. Ei chyfarchiad cyntaf oedd, ‘Croeso, fi yw Hanta o Ben-rhys.’ Dwedodd, ‘Pen-rhys wnaeth i mi eisiau bod yn weithwraig gymdeithasol. Yno sylweddolais os allwn i helpu plant ac ieuenctid Pen-rhys, gallwn helpu plant a phobl ifanc adref hefyd. ’ Ychwanegodd, ‘Nid swydd yw hon. Dyma fy mywyd i!!’
AAF will receive a grant of approx. £46k from the appeal. To find out more about how this will be spent click here…
COSTAU
Cadw merch yn y ganolfan am fis: £30
Gofal meddygol i un ferch am fis: tua £7
Defnyddiau ar gyfer addysg ymarferol i’r merched am fis: £150
Deunyddiau ysgol i un ferch am flwyddyn: £39