UWI Appeal – Akany Avoko Faravohitra

Canolfan Breswyl i Ferched: Akany Avoko Faravohitra

‘Nid swydd yw hon. Dyma fy mywyd i!’
Canolfan breswyl i adfer ac ailhyfforddi merched ifanc yw Akany Avoko Faravohitra (AAF), gyda thua 50 o ferched yno ar hyn o bryd.  Mae’r mwyafrif yn eu harddegau, rhai o dan 12 oed a rhai’n famau sengl.  Gwraig o’r enw Hanta Randrianarimalala sy’n rhedeg AAF, gyda thîm o 9 aelod o staff a gwirfoddolwyr lleol a rhyngwladol.  Fel arfer anfonir y merched i AAF am un o ddau reswm:
1. Cael eu harestio am fân droseddau sy’n deillio o’u sefyllfaoedd anobeithiol e.e. dwyn bwyd neu ddillad, puteindra neu gyffuriau.  Daw pobl ifanc i’r brifddinas i chwilio am fywyd gwell.  Ond does dim gwaith nac arian yno, ac fe’u gorfodir i fyw ar y stryd neu mewn slymiau.  Mae’r merched sydd yn y ganolfan naill ai’n aros am wrandawiad llys a all gymryd hyd at flwyddyn, neu eisoes wedi eu dedfrydu.  Cânt eu hanfon i’r ganolfan i’w hasesu, yn hytrach na mynd i garchar.
2. Wedi eu cam-drin neu wedi eu gadael gan eu teuluoedd, ac yn byw ar y stryd ers eu bod yn ifanc.
Beth bynnag y rhesymau, maen nhw’n fregus, wedi gorfod wynebu sefyllfaoedd peryglus a phrofi trawma a cholled.  Fel dwedodd Hanta, ‘Ein gwaith ni yw gofalu amdanynt, eu haddysgu a’u hamddiffyn.’   Bydd Hanta’n eu hasesu er mwyn gweld beth yw eu hanghenion addysgiadol.  Mae dros hanner y merched yn mynd i’r ysgol leol a’r gweddill yn cael eu dysgu yn y ganolfan.  Dysgir iddynt hefyd sgiliau ymarferol fel brodwaith, gwnïo a gwneud dillad a sgiliau bod yn rhiant.  Rhoddir pob cefnogaeth i’r merched i barhau eu haddysg neu hyfforddiant galwedigaethol wedi iddynt adael y ganolfan.  Mae’r merched yn rhannu ystafelloedd cysgu ar y cyd, a hwy sy’n gyfrifol am e cadw’n ddestlus a glân.  Eglurodd Hanta mai’r nod yw eu helpu i fod yn oedolion annibynnol fydd yn cyfrannu at fywyd eu cymunedau.  Meddai: ‘Rwy am iddynt gael uchelgais a theimlo eu bod yn rhan o gymdeithas.  Ond uwchlaw popeth, rwy am iddyn nhw fod yn hapus.’
Ar ddiwedd eu cyfnod yn y ganolfan mae’r merched yn gorfod mynd gerbron barnwr y llys plant.  I’r mwyafrif y gobaith yw ymuno gyda’u teuluoedd eto a chael mynd adref.  Mae paratoi ar gyfer hyn yn rhan allweddol o waith AAF.  Ymdrechir i gysylltu â’r teuluoedd, a threfnir rhaglen o gyfarfodydd rhwng y ferch a’i theulu, wedi eu harolygu gan y staff.  Mae Hanta’n paratoi adroddiad manwl i’r llys ar y ferch, gydag awgrymiadau ynglŷn â beth ddylai ddigwydd iddi. Meddai, ‘ Mewn 99% o achosion mae’r llys yn barod i dderbyn fy awgrym ac yn rhyddhau’r ferch heb gosb ychwanegol.’
Mae AAF yn helpu newid bywydau merched tlawd a bregus ym Madagascar, ac yn gwneud hynny ar gyllideb gyfyng iawn.  Nid ydynt yn derbyn arian gan lywodraeth y wlad, nac o unrhyw sefydliad mewnol arall.  Daw’r rhan fwyaf o’u harian gan unigolion, eglwysi a sefydliadau tramor, ac maen nhw’n dibynnu’n fawr ar y rhaglen nawdd sydd ganddynt.  Cost rhedeg y ganolfan am fis yw 8.5 miliwn Ariary (£1,900), gyda gofal, bwyd ac addysg un ferch yn costio tua 130,000 Ariary (£30) bob mis.
Oherwydd prinder arian, dyfodol ansicr sy’n wynebu’r merched wrth ddechrau ar fywyd annibynnol.  Byddai rhagor o gyllid yn caniatáu i AAF eu helpu hwy, a hefyd helpu merched eraill i osgoi carchar a thyfu i fod yn oedolion hapus, annibynnol sy’n gaffaeliad i’w cymunedau.
Mae Hanta’n creu argraff fawr, oherwydd ei gweledigaeth a’i hymroddiad i sicrhau lles y merched yn ei gofal.  Mae’n amlwg eu bod hwythau’n meddwl y byd ohoni.  Roedd y ganolfan mewn cyflwr enbyd a heb ddodrefn pan gymerodd hi drosodd, ond fe weithiodd yn galed i wneud yr adeilad yn lle gwerth byw ynddo, er bod dal angen gwneud gwaith sylweddol arno.  Treuliodd Hanta flwyddyn mewn canolfan debyg i AAF pan oedd hi’n ei harddegau, felly mae’n deall anghenion y merched.  Wedi hynny, cafodd gyfle i ddod i Ben-rhys yn y Rhondda am gyfnod, a bu hynny’n ddylanwad mawr arni.  Ei chyfarchiad cyntaf oedd, ‘Croeso, fi yw Hanta o Ben-rhys.’ Dwedodd, ‘Pen-rhys wnaeth i mi eisiau bod yn weithwraig gymdeithasol.  Yno sylweddolais os allwn i helpu plant ac ieuenctid Pen-rhys, gallwn helpu plant a phobl ifanc adref hefyd.  ’ Ychwanegodd, ‘Nid swydd yw hon.  Dyma fy mywyd i!!’
AAF will receive a grant of approx. £46k from the appeal.  To find out more about how this will be spent click here…

COSTAU
Cadw merch yn y ganolfan am fis: £30
Gofal meddygol i un ferch am fis: tua £7
Defnyddiau ar gyfer addysg ymarferol i’r merched am fis: £150
Deunyddiau ysgol i un ferch am flwyddyn: £39

Click here for a short video about AAF
Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial
Instagram