Rhoddion Amgen

I’r rhai hynny sydd â ‘phob dim’, mae un o’n rhoddion amgen ni’n gwneud anrheg ardderchog fydd yn dod â llawenydd iddynt hwy a gobaith i bobl Madagascar hefyd. Dewiswch eich rhodd ac fe anfonwn ni gerdyn at eich cyfaill neu berthynas gyda manylion y rhodd arno.

Pan fyddwch chi’n prynu Rhodd Amgen byddwch chi’n cefnogi gwaith Money for Madagascar. Er ein bod ni’n ceisio defnyddio’ch arian chi yn y mannau mwyaf priodol, angen yw’r maen prawf pwysicaf, felly defnyddir eich arian chi yn y mannau hynny y mae mwyaf ei angen.

Yr ydym ni wedi ymestyn ein dewis o roddion nid dim ond ar gyfer cyfnod y Nadolig, ond ar gyfer y flwyddyn gyfan. Dyma rhai syniadau ardderchog ar gyfer ‘Pen-blwydd’, ‘Pasg’, ‘Penblwyddi Arbennig’ neu fel anrheg diolch ar gyfer athro neu gyfaill. Gobeithiwn y dewch chi o hyd i’r anrheg berffaith fydd yn gwneud byd o wahaniaeth ym Madagscar.

Mae blaen y cerdyn anrheg fel ag y dangosir. Bydd y label y tu fewn i’r rhodd a ddewiswyd fel ag y dangosir pan fo hynny’n bosibl.

Showing all 16 results

Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial
Instagram