Gwytnwch o ganlyniad i Drychineb

Y mae Madagascar yn wynebu argyfyngau naturiol, fel arfer ar ffurf seiclonau yn flynyddol bron â bod. Y mae amlder a ffyrnigrwydd y ffenomenâu naturiol hyn wedi dwysáu yn ystod y blynyddoedd diweddar yn bennaf oherwydd newid hinsawdd.

Mae MfM yn rhedeg apeliadau o bryd i’w gilydd i helpu cymunedau ym Madagascar ac o ganlyniad i’r trychinebau naturiol hyn. Fodd bynnag mae MfM yn edrych y tu hwnt i’r lliniaru trychineb ac yn ceisio helpu cymunedau lleol i adeiladu gwytnwch yn wyneb trychineb fel eu bod yn gallu bod wedi’u paratoi’n well fel nad ydyn nhw’n wynebu dinistr llwyr pan ddaw’r diwgyddiadau hyn i’w rhan.

CNewyn dybryd a bod yn agored effeithiau newid hinsawdd ym Madagascar:

Yn yr Indecs Newyn Global yn 2017, Madagascar oedd y 4ydd gwlad dlotaf ar y ddaear. Mae 92% o’r boblogaeth sy’n un wledig gan mwyaf, yn byw o dan y llinell dlodi ac mae 47% o blant o dan bump oed yn wynebu peidio â thyfu’n iawn oherwydd diffyg maeth dybryd (Rhaglen Fwyd y Byd 2019). Y mae digwyddiadau tywydd eithafol fel seiclonau, sychder a llifogydd yn digwydd yn rheolaidd ym Madagascar sy’n difrodi neu ddinistrio cnydau, cartrefi ac isadeileddau. Y mae amlder y math hyn o ddigwyddiadau am gynyddu dros amser. Dynodwyd Madagascar fel un o’r 20 gwlad sydd yn fwyaf agored i effeithiau newid hinsawdd (cyf). Bydd newid hinsawdd yn effeithio’n anghymesur ar ffermwyr bychain ac yn rhoi eu bywoliaeth yn fwy fyth yn y fantol. Y mae ffermwyr Madagascar yn fwy agored i unrhyw ergydion i’w system amaeth oherwydd eu dibyniaeth uchel nhw ar amaeth am eu bywoliaeth, diffyg dioglewch dybryd o ran bwyd a diffyg mynediad at rwydi diogelwch ffurfiol.

 

Ymyrraeth MfM yn Analamanga: o liniaru trychineb i adeiladu gwytnwch:

Ers 2009 mae Money for Madagascar (MfM) a’u partner WTDM wedi bod yn gweithio i gefnogi datblygu a chryfhau cymunedau bregus yn rhanbarth Analamanga, ar gyrion y brifddinas, Antananarivo. I ddechrau, roedd gwaith yn canolbwyntio ar ddarparu cyflenwadau dŵr glân. Fodd bynnag, yn Ebrill 2017, yn sgil sychdwr hir a ddilynodd seiclon ENAWO, teimlodd MfM bod yn rhaid iddynt gynnig ymateb argyfwng a chefnogaeth adferiad brys. Roedd ymgymryd â’r gwaith hwn yn tanlinellu’r ansicrwydd bwyd dybryd a natur fregus cartrefi yn y cymunedau hyn yn wynebu trychinebau naturiol. Er bod ymateb argyfwng yn bwysig, y mae ffocws MfM ar helpu pobl i ddatblygu’r gallu i ddatrys eu problemau eu hunain. Am y rheswm hwn, yn Rhagfyr 2017 cychwynnodd MfM a WTDM ar gynllun peilot i helpu 7 cymuned i gynyddu eu sicrwydd bwyd drwy wella eu cynhyrchu amaethyddol a lleihau effeithiau peryglon amgylcheddol. Awgrymodd gwerthusiad ar ôl blwyddyn fod yr ymagwedd wedi bod yn llesol o ran datblygu sylfaen amrywiol, cynaliadwy a gwydn ar lefel cartrefi unigol. Fodd bynnag, tanlinellodd yr angen hefyd i:

  • Sicrhau bod gan ffermwyr well mynediad i systemau rhybudd cynnar a thechnegau paratoadol ar gyfer trychinebau

  • Datblygu a chryfhau strwythurau trefniadol i ffermwyr ymhellach, mynediad i gredit, mynediad i farchnadoedd

  • Datblygu a chryfhau gweithgareddau creu incwm amgen ymhellach

  • Sicrhau bod yr ymagwedd ffermwr i ffermwr o ran lledaenu pethau newydd technegol yn rhaeadru manteision i niferoedd arwyddocaol o gartrefi newydd yn effeithiol bob blwyddyn

  • Sicrhau cynaliadwyedd y gwelliannau drwy ddatblygu cysylltiadau â gweithredwyr allweddol eraill (cyrff llywodraethol, cyrff anllywodraethol a busnes) sy’n gweithio i gryfhau gwytnwch yn erbyn hinsawdd.

 


Y Newyddion Diweddaraf ac Apeliadau

 


Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial