Addysg er mwyn Bywyd

Ym Madagascar mae plant yn breuddwydio am y cyfle i dderbyn addysg ond i’r rhan fwyaf, y mae’r anawsterau’n rhy fawr. Y mae ysgolion gwledig anghysbell yn brin o bob dim, o ystafelloedd dosbarth, dŵr a thai bach i athrawon a llyfrau. Yn aml mae’r plant yn rhy llwglyd neu sâl i astudio a braidd y gall rhieni fforddio’r ffioedd.

Mae MfM yn gobeithio dod â gobaith a ffyniant i blant anghofiedig Madagascar drwy raglen integreiddedig ar gyfer ysgolion cynradd gwledig. Mae Education for Life (Ed4life) yn gweithio gyda chymunedau i ddarparu: ystafelloedd dosbarth newydd, dŵr glân a thoiledau, llyfrau, hyfforddiant athrawon, addysg amgylcheddol, ffreuturau ysgol, pŵer solar, llythrennedd i oedolion ynghyd â chyfleoedd i greu incwm ar gyfer rhieni.

Pam Education for Life?

Mae dros 30 mlynedd o weithio gyda sefydliadau ar lawr gwlad wedi argyhoeddi MfM fod mynediad at addysg dda yn hanfodol os yw Madagascar i wneud y daith allan o dlodi at ffyniant. Y mae degawdau o dan-fuddsoddiad a waethygwyd gan ansefydlogrwydd gwleidyddol diweddar wedi gadael y wlad yn analluog i ddarparu’r addysg fwyaf sylfaenol hyd yn oed. Gydag aelwydydd yn dod yn dlotach (mae 80% o’r boblogaeth yn byw ar lai na $1 y diwrnod) a bwyd yn dod yn ganran gynyddol o’u gwariant, mae cofrestru ar gyfer ysgol wedi gostwng yn arwyddocaol, gan syrthio i cyn ised â 55% mewn rhai ardaloedd. O bob 100 sy’n cychwyn mewn ysgol gynradd dim ond 33 sy’n cyrraedd ysgol uwchradd.

Mae ymchwil yn dangos hyd yn ped gydag isadeiledd yn ei le, y pum prif rhwystr sy’n atal myfyrwyr Malagasi rhag llwyddo yn yr ysgol yw:

    • Absenoldeb o’r ysgol oherwydd salwch;

    • Methu talu ffioedd ysgol;

    • Dysgu gwael gan athrawon heb sgiliau a heb ysgogiad;

    • Diffyg deunyddiau ac adnoddau dysgu;

    • Newyn a’r anallu i fedru canolbwyntio a dysgu ddaw yn sgil hynny.

 

Pwy mae Ed4life yn eu helpu?

Mae Ed4life yn helpu plant mewn cymunedau cefn gwlad anghysbell iddynt gael mynediad at addysg sy’n medru newid eu bywydau.

Bob blwyddyn, mewn partneriaeth â Sefydliad Adsum, rydym ni’n bwriadu cychwyn derbyniad newydd o 10 ysgol. Bydd pob Cam o raglen ‘Education for Life’ MfM yn cefnogi ar gyfartaledd:

2,000 o blant,

50 athro,

1,500 o rieni.

Mae gan MfM oddeutu 4 Cam yn rhedeg ar unrhyw un adeg, sy’n elwa 14,200 o bobl yn uniongyrchol.

Mae’r ysgolion wedi’u lleoli’n glystyrau yn ardaloedd Itasy, Miarinarivo ac Analamanga gan mwyaf, gyda rhai ysgolion ychwanegol sy’n cael eu cefnogi yn y dwyrain, y gorllewin a’r de. Gellir gweld lleoliadau’r ysgolion presennol ar fap y wefan. website map.

 

Sut mae Ed4life yn gweithio?

Lle bo’r angen, mae ysgolion sy’n cymryd rhan yn derbyn cefnogaeth i gryfhau eu darpariaethau sylfaenol megis ystafelloedd dosbarth, tai bach a mynediad at ddŵr glân. Yna, darperir y rhaglen integreiddedig ganlynol i gryfhau iechyd a dysgu i bawb yn yr ysgol:

    • Hyfforddir athrawon mewn dulliau pedagogaidd sylfaenol;

    • Sefydlir llyfrgell ysgol ag adnoddau ymhob ysgol – gan gynnwys gwerslyfrau a chynorthwyon dysgu;

    • Sefydlir gardd gegin ymhob ysgol er mwyn darparu bwyd maethlon ar gyfer ffreuturau ysgol newydd;

    • Sefydlir ffreutur ymhob ysgol sy’n cynnig bwyd maethlon i’r disgyblion;

    • Hyfforddir myfyrwyr, rhieni ac athrawon mewn dulliau cynhyrchu bwyd organig fel buddsoddiad hirdymor o ran maeth a ffynhonnell bosibl o incwm ychwanegol;

    • Sefydlir unedau compostio mwydod ymhob ysgol er mwyn gwella ansawdd y pridd a darparu modd o gynhyrchu incwm i’r ysgol;

    • Darperir cyfleoedd hyfforddi ar gyfer rhieni i’w dysgu i helpu wynebu her talu am gostau ysgol;

    • Darperir gwell cyfleusterau carthffosiaeth a hyfforddiant hylendid da er mwyn osgoi absenoldeb oherwydd salwch gastro-berfeddol.

    • Lle bo’n briodol, darperir citiau solar a chyfleusterau dysgu clyweledol.

Caiff y rhaglen ei rhedeg gan MfM mewn partneriaeth gyda staff, rhieni a myfyrwyr yr ysgolion, gyda chefnogaeth lawn awdurdodau lleol a rhanbarthol ac asiantaethau eraill.

 

Beth yw manteision Ed4llife?

Dylai cymunedau sy’n rhan o’r rhaglen gael mantais o fodolaeth yr ysgolion lleol sy’n medru darparu amgylchedd dysgu diogel a glân, ble gall plant y pentref gael mynediad at addysg dda gan athrawon hyfforddedig a brwd. Mae cwricwlwm gwell ynghyd ag arferion addysgu ac adnoddau addysgiadol gwell yn galluogi ysgolion i greu plant sydd wedi’u haddysgu’n well, plant sy’n medru parhau at addysg bellach a hyfforddiant – yn y pen draw, gallant ddewis i fwydo a chynnal eu hunain naill ai drwy arferion amaethyddol cynaliadwy neu drwy gael cyflogaeth arall y tu hwnt i’w cymuned.

Mae pob ysgol yn derbyn cefnogaeth am 3-4 o flynyddoedd. Ar ddiwedd y cyfnod nawdd, rydym ni’n disgwyl fod y canlyniadau canlynol wedi’u cyflawni:

      •  Gwellhad arwyddocaol yn ansawdd yr addysgu.

      •  Cynnydd yn incwm y rhieni a’r gallu dilynol i fedru fforddio talu ffioedd ysgol a chostau ysgol eraill.

      •  Cynnydd cysylltiedig yn y raddfa presenoldeb a gostyngiad yn y raddfa gadael.

    •  Gwell maeth oherwydd eu bod wedi bwyta cynnyrch gardd yr ysgol.

    •  Gwell maeth yn cyfrannu at well presenoldeb a pherfformiad y disgyblion.

    •  Gostyngiad mewn absenoldeb oherwydd salwch, ac o ganlyniad i ddysgu a mewnoli’r negeseuon hylendid WASH.

    •  Cynnydd arwyddocaol yng nghyrhaeddiad y disgyblion.

 

 

Y Newyddion Diweddaraf ac Apeliadau

Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial
Instagram