Mae MfM yn gweithio i weddnewid bywydau plant sy’n agored i niwed yn y brifddinas ac yn yr ardal ehangach. Rhoddir cysgod, bwyd, gofal iechyd, addysg, dŵr, glanweithdra a gofal cariadus i blant amddifad, plant wedi’u gadael, rhai sydd wedi’u cam-drin a phlant digartref. Mae’r plant a’u teuluoedd yn derbyn cefnogaeth i’w cynorthwyo i oresgyn gwraidd achosion eu hamddifadedd. Caiff plant sydd ar gyfnod prawf ac mewn gofal gyfle i dderbyn hyfforddiant a chefnogaeth er mwyn ailgychwyn eu bywydau.
Mae MfM yn cefnogi pedair canolfan breswyl, pedair canolfan ddydd a dwy adain carchar i ieuenctid. Cliciwch ar yr isod i ddarllen mwy:
Canolfannau Preswyl yn:
Canolfannau Dydd yn:
Adain Garchar i Ieuenctid yn:
Mae mwy nag mil o blant yn elwa drwy’r rhaglen hon bob blwyddyn.
Cred MfM mewn buddsoddi mewn plant i’w cynorthwyo nhw i gyrraedd at eu potensial. Rydym ni hefyd yn buddsoddi yn y gofalwyr fel bod modd iddyn nhw ddysgu sgiliau, cael eu cymell a dysgu bod yn ofalgar. Mae gweithdai hyfforddi staff eleni wedi mynd i’r afael â: gwarchod plant, datblygiad plant, ymagweddau amlsector, a gweithgareddau ecolegol a chynhyrchu incwm.