UWI Appeal – SAF Dispensary

SAF: llawfeddygaeth, trin dannedd a fferyllfa

‘Mae pobl iach yn cyrraedd eu potensial’

 

 

Ynghanol prifddinas Madagascar, Antananarivo, mewn rhan o swyddfeydd FJKM (Fiangonani’i Jesoa Kristy eto Madagasikara), sef Eglwys Iesu Grist ym Madagascar, mae fferyllfa a chlinig dannedd sy’n cael eu cynnal gan fudiad o’r enw SAF (Sampan’Asa momba ny Fampandrosoana).  Cafodd SAF ei sefydlu’n rhan o raglen datblygu FJKM, i fynd i’r afael â’r diffygion anferth mewn gofal iechyd.  Ym Madagascar, dim ond 3,000 o feddygon a 5,500 nyrs sy’n gwasanaethu 25,000,000 o bobl.  Mae gofal meddygol yn ddrud a’r tu hwnt i bocedi cyfartaledd y boblogaeth.  Gall cwrs o wrthfiotigau gostio cymaint â chyflog pythefnos i weithiwr cyffredin.
Mae gan SAF gynllun i sefydlu fferyllfeydd ledled y wlad lle gall pobl gyffredin fynd a gweld meddyg am 19% o’r pris mewn meddygfa arferol.  Mae’r moddion hefyd yn rhatach. Mae gyda nhw bellach rwydwaith o 36 fferyllfa a 3 o’r rheiny yn y brifddinas.
Does dim gwasanaeth iechyd am ddim ym Madagascar ac mae SAF yn cynnig gwasanaeth meddygol llawer rhatach e.e. mae gweld meddyg a chael moddion trwy SAF yn costio £2.20 o’i gymharu ag £11 mewn meddygfa breifat; cost defnyddio camera uwch-sain yw £1.75, o’i gymharu â £4.50 mewn meddygfa breifat.
Mae SAF yn recriwtio meddygon, nyrsys neu fydwragedd ac yn darparu adeilad addas, ynghyd â gwerth 6 mis o foddion sylfaenol a chefnogaeth goruchwylwyr.  Trwy godi tâl bychan am weld meddyg a moddion, gall y staff meddygol gynnal eu teuluoedd, prynu moddion newydd a diogelu gwasanaeth cymunedol sy’n gynaliadwy a fforddiadwy.
Dr Philipe Ramarosandratana sy’n arwain y tîm yn y brif fferyllfa ac mae’n cynnwys 2 feddyg, 2 nyrs, deintydd a staff gweinyddu.  Mae’r holl staff meddygol yn gweld 50-60 claf bob dydd.  Dr Philipe oedd Cyfarwyddwr Rhaglen Iechyd Cymunedol Genedlaethol Madagascar ond gadawodd y swydd honno i ddod i weithio i SAF ac mae’n rheoli’r brif fferyllfa ers mwy na 25 mlynedd.  ‘Mae’n bleser a braint gweithio gyda’r eglwys,’ meddai. ‘Nid ennill arian sy’n fy ysgogi.”
Bydd y staff yn trin clefydau amrywiol ymhlith oedolion a phlant, yn rhwymo briwiau a chlwyfau, yn darparu moddion at anhwylderau tymor hir, yn brechu, yn cynnal clinigau mamolaeth a chyngor am atal cenhedlu, cynllunio teulu a chyngor meddygol cyffredinol.  Os oes angen triniaeth fwy arbenigol, caiff cleifion eu cyfeirio i ysbyty.
Y nyrs famolaeth sy’n cynnal y glinig mamolaeth ac atal cenhedlu; bydd yn cynnal archwiliadau rwtîn a rhoi cyngor am gynllunio teulu.  Mae gan y clinig gamera uwchsain, a roddwyd gan eglwys yn Korea.  Mae angen camera newydd ond byddai’n costio £5,0000 (25 miliwn Ariary).  Mae clinigau wedi-geni hefyd, gyda chyngor am fwydo a maeth, gyda’r nod o wneud popeth posib i sicrhau bod y baban newydd yn goroesi ac yn cael ei warchod rhag y clefydau plant sy’n parhau’n gyffredin yno. Er enghraifft, dywedodd Dr Philipe ei fod wedi gweld 7 achos o polio yn ystod y flwyddyn ddiwetha’.
Mae’r brif fferyllfa yn cynnig gwasanaeth trin dannedd, sy’n brin mewn gwlad heb ddim ond 57 deintydd.  Mae’r deintydd yn o 4 niwrnod yr wythnos ac mae’r stafell aros yn orlawn bryd hynny!
Yn eu gwaith, mae SAF yn rhoi pwyslais ar atal clefydau.  Maen nhw’n cynnal ymgyrch i frechu rhag polio, gan greu poster arbennig am hynny ar gyfer ysgolion ac eglwysi.  Yn ddiweddar, dosbarthodd y fferyllfa wybodaeth am y pla, a chynnig cyngor ymarferol am warchod rhagddo.  Gan fod diffyg maeth yn broblem i tua 51% o’r boblogaeth, mae SAF yn cynnal Rhaglen Faeth Genedlaethol mewn pentrefi gwledig lle mae eu fferyllfeydd.  Maen nhw hefyd yn gweithio i godi ymwybyddiaeth am glefydau cyffredin, fel TB a malaria a chynnig cyngor am HIV ac AIDS.
Bellach, mae gan SAF statws NGO ei hunan ond mae’r berthynas agos ag FJKM yn parhau.  Dim ond am foddion y bydd gweinidogion FJKM yn talu, nid am weld meddyg, a chaiff gweinidogion wedi ymddeol y cyfan am ddim.
Y problemau mwya’ yw diffyg cyllid, prinder moddion a gweithwyr meddygol cymwys yn cael eu denu dramor gan gyflogau uwch.  Eto, mae’r fferyllfeydd yn gwneud cyfraniad allweddol i iechyd yng nghymunedau Madagascar.  Yng ngeiriau Dr Philipe, mae gofal iechyd yn uchel ar restr blaenoriaethau pobl ‘am fod pobl iach yn cyrraedd eu potensial’

COSTAU

Pris un cwrs o wrthfiotigau i warchod unigolyn rhag y pla: £7.50

Click here for a short video about SAF Dispensary

 

Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial
Instagram