UWI Appeal – Topaza Children’s Home

Cartref Plant Topaza

‘Nid cartref plant amddifad mo hwn. Mae’n un teulu mawr!’
  • Topaza Children' s Home
Saif cartref plant Topaza ar ben un o fryniau Antananarivo, yn un o hen adeiladau’r London Missionary Society (LMS) a etifeddwyd gan FJKM (Fiangonan’i Jesoa Kristy eto Madagasikara) sef Eglwys Iesu Grist ym Madagascar.  Yn dilyn dinistr sylweddol i’r adeilad gwreiddiol gan gorwynt, tua 5 mlynedd yn ôl, fe ail-adeiladwyd y cartref, gyda chymorth ariannol Eglwys Bresbyteraidd Orlando, UDA.  Mae’n adeilad braf, gyda 43 o blant, rhwng 2 fis a 22 mlwydd oed, yn byw yno, er bod lle i ragor pe bai cyllid yn caniatáu.  Ceir nifer o ystafelloedd cysgu ar y cyd, dibynnu ar oed a rhywedd, meithrinfa ar gyfer y plant o dan 4 oed, cegin, ystafell bwrpasol i fwyta a chynnal gweithgareddau ac ystafelloedd i’r staff sy’n byw mewn.  Mae digon o le o gwmpas yr adeilad i’r plant i chwarae a mur o’i amgylch gyda gatiau sy’n cloi er mwyn sicrhau eu diogelwch.  Gofelir am y plant gan dîm o 12 aelod staff, sy’n cael eu harwain gan Tantely Rakotoarivony, cyfarwyddwraig y cartref ers 2004.  Er mai FJKM sy’n gyfrifol am Topaza, y wladwriaeth drwy’r llysoedd barn sy’n anfon y plant yno. Mae rhai yn blant amddifad, eraill yno am fod y llys wedi dyfarnu na all eu rhieni ofalu amdanynt e.e. oherwydd problemau iechyd meddwl, ac mae nifer yn blant a adawyd gan eu rhieni.  Gan fod cymunedau Madagascar yn draddodiadol iawn, mae merched di-briod sy’n feichiog mewn perygl o gael eu gwrthod gan eu teuluoedd a’u heithrio gan y gymuned.  Yn aml felly fe fydd mam sengl yn dewis gadael ei phlentyn, yn hytrach na mentro ceisio goroesi heb gynhaliaeth teulu a chymuned.
Mae Tantely wedi’i thrwyddedu gan y wladwriaeth i fod yn warchodwraig a thiwtor y plentyn.  Yn dechnegol mae pob plentyn yno dros dro, gyda’r drwydded yn cael ei hadnewyddu pob 6 mis, ond ychydig sy’n gadael cyn cyrraedd oedran oedolyn.
Mae’r plant yn mynd i’r ysgol leol, gyda nifer ohonynt wedi mynd yn eu blaen i astudio yn y brifysgol.  Gwneir pob ymdrech i greu teimlad o berthyn a pherthynas rhwng y plant a’i gilydd a gyda’r staff.  Maen nhw’n bwyta gyda’i gilydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar y cyd. Bob blwyddyn, cânt bythefnos o wyliau gyda’i gilydd ar lan y môr.
Mae’r plant sydd wedi gadael y cartref yn cadw mewn cysylltiad cyson, gan ofalu dod yn ôl ar adeg pen-blwydd a dathliadau eraill. Soniodd Tantely am un ferch a ddaeth yn ôl i’r cartref er mwyn cynnal ei gwledd briodas, a daw nifer yn ôl ar ddyddiau gŵyl yr Eglwys, fel y Nadolig, y Pasg ac wrth gwrs Sul y Mamau
Yng ngeiriau Tantely, ‘Nid cartref plant amddifad mo hwn. Mae’n un teulu mawr!’
Mae’r cartref i fod i dderbyn 1,000 Ariary y dydd sef gwerth tua 22c am bob plentyn a anfonir yno gan y llysoedd, ond nid yw wedi derbyn dim arian gan y wladwriaeth ers sawl blwyddyn, ac ni ddaw unrhyw arian oddi wrth sefydliadau eraill o fewn Madagascar.  Mae sefyllfa ariannol fregus FJKM yn golygu mai dim ond cyflenwadau bwyd achlysurol fydd y cartref yn derbyn ganddynt hwy.  Mae Topaza’n dibynnu ar roddion gan unigolion, eglwysi a sefydliadau tramor i gadw’r cartref ar agor, ac mae nifer o’r plant yn cael eu noddi.  Mae’n costio tua 5,000 Ariary, sef tua £1.10 y dydd i ofalu am blentyn yn y cartref.
Gyda diffyg maeth yn broblem enfawr yn y wlad ac yn effeithio dros hanner y boblogaeth, mae sicrhau bod y plant yn Topaza yn cael digon o fwyd maethlon yn her.  Mae cyflenwadau bwyd FJKM yn help, ond nid yw’n ddigonol. Un prosiect a sefydlwyd yn ddiweddar gyda chymorth Eglwys Bresbyteraidd Orlando yw ffermio soflieir er mwyn yr wyau, sy’n darparu’r maeth angenrheidiol ac sy’n gynaliadwy.
Topaza Children’s Home will receive a grant of approx. £30k from the appeal. To find out more about how this will be spent click here…

COSTAU
Gofal i 1 plentyn am ddiwrnod: £1.10
Pris sofliar: £2.20
Torth o fara: 10c
Litr o laeth: 45c
Cilogram o reis: 37c

Click here for a short video about Topaza Children’s Home
Social media & sharing icons powered by UltimatelySocial
Instagram